Efallai ei bod yn werth cofio bod y gyfraith sydd - er gwell neu er gwaeth -
yn llywodraethu'n gwlad yn defnyddio'r gair Saesneg 'person' yn bendant
iawn, ac mae bod yn 'person' yn llygaid cyfraith Cymru a Lloegr yn dwyn
hawliau a rhwymedigaethau neilltuol nad ydyn nhw'n effeithio ar
'corporations', 'associations' 'companies' ac ati, sy'n bethau â statws pur
wahanol yn y gyfraith. Ac maen nhw'n dweud wrtha i fod ystyr 'persons' yn
wahanol yn y gyfraith honno i 'people' hefyd
Nawr te, wrth weithio ym maes y gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n rhaid
ymdopi â thermau fel 'person' a 'persons' a mynegi'r cyferbyniad rhwng - er
enghraifft -'persons' a 'people'. Os oes gwell dull ar gael na defnyddio'r
benthycair Cymraeg 'person', does neb wedi'i grybwyll ar W-T-C eto.
(Ac wrth ddweud mai "mawr yw Iesu yn ei berson", dwy ddim yn meddwl bod yr
emyn yn cyfeirio at un o staff cyflogedig yr eglwys sefydledig chwaith!)
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, December 03, 2002 3:16 PM
Subject: Re: Disabled Persons (Employment) Act (1944 & 1958)
Gwn o brofiad y byddai Bruce yn dechrau holi ynghylch hawliau Gweinidogion
Anabl hefyd!
Ann
----- Original Message -----
From: Tim Saunders <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, December 03, 2002 2:42 PM
Subject: Re: Disabled Persons (Employment) Act (1944 & 1958)
> Siawns na fyddai rhyw gyfeiriad ar wefan deddfwriaeth y Cynulliad?
>
> Rhywbeth fel Deddf Personau Anabl (Cyflogaeth) (1944 1 1958), bawswn i'n
> amau, sbo.
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: Bethan Evans [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 03 December 2002 14:38
> To: [log in to unmask]
> Subject: Disabled Persons (Employment) Act (1944 & 1958)
>
>
> Dwi wedi methu â dod o hyd i'r Gymraeg.
>
> Oes rhywun yn gwybod beth yw'r cyfieithiad?
>
> Diolch yn fawr
> Bethan
>
>
|