Diolch! Dwi’n meddwl bod hynny’n swnio’n well.
Grêt
Diolch
Siân
> On 3 Nov 2015, at 09:39, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>
> Ie hwyrach, neu "galw allan o'r fframwaith"...
>
> On 03/11/2015 09:26, Sian Roberts wrote:
>> Tybed a fyddai "galw oddi ar y fframwaith" yn gweithio?
>>
>> "the suitable consultants can be called off the framework to take part in a mini-competition"
>> "gellir galw ar yr ymgynghorwyr addas oddi ar y fframwaith i gymryd rhan mewn mini-gystadleuaeth"
>>
>> "the documents should determine the terms of calling off the framework"
>> "dylai'r dogfennau bennu telerau galw (ymgynghorwyr) oddi ar y fframwaith"
>>
>> "at selection stages or when calling off a framework"
>> "pan ddaw'n amser dewis neu alw oddi ar fframwaith"
>>
>> "it is best that they call off their design team using a qualitative selection procedure"
>> "y peth gorau yw iddynt alw’u tîm dylunio oddi ar y fframwaith gan ddefnyddio gweithdrefn ddewis ansoddol."
>>
>> "it should determine the terms of operating and calling off the framework"
>> "dylai bennu telerau gweithredu’r fframwaith a galw ymgynghorwyr oddi arno"
>>
>> Diolch am unrhyw gyngor
>>
>> Siân
>>
|