Mae'n ddrwg gennyf gamddefnyddio'r grwp, ond mae hyn yn fater o frys.
Cefais alwad y bore 'ma gan gyfieithydd sydd newydd gael Trados 2015 ac
mewn anawsterau. Yn anffodus, nid wyf wedi'i gweld hi'n werth chweil
diweddaru fy meddalwedd ers imi beidio a chyfieithu'n llawn amser, ac
mae wedi bod yn amhosibl, dros y ffon, i hyd yn oed ddweud wrth y
cyfieithydd arall pa bethau i'w trio ar ei sgrin.
Os ydych chi'n defnyddio fersiwn gweddol ddiweddar o Trados, ac yn barod
i dreulio ychydig o amser ar y ffon gyda hi (neu iddi hi alw heibio os
byddwch yn yr un ardal), a fuasech chi mor garedig a chysylltu a fi ar frys?
Llawer o ddiolch,
Ann
--
Ann Corkett
5 Heol Belmont
BANGOR, Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]
|