Yn anffodus, dwy ddim yn nabod Robert Wyn o'r Bontnewydd - ond rwy
newydd ffonio Swyddfa'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, ac mae'n
edrych yn addawol - efallai y bydd modd i rywun oddi ynoi anfon geiriau
ataf. Croesaf fy mysedd.
Puw, John wrote:
> Wyt ti'n nabod Robert Wyn o Bontnewydd? Rwy'n sicr bod ganddo gyfieithiad o 'Finch' han dal vino'. Mae'n siwr bod cyfieithiad o Widmung yn llyfr John Stoddart - rwyf wedi cael gwared ar y rhan fwyaf o'm llyfrau ac mae cyfieithiadau Lieder John bron yn sicr wedi went.
>
> Hwyl,
> John
>
> John Puw
> Cyfieithydd / Translator
> Heddlu Gogledd Cymru
> 01492 641 958
>
> www.mndassociation.org
> www.cantorioncolinjones.net
>
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Smith,Helen Kalliope
> Sent: 10 Mawrth 2010 15:52
> To: [log in to unmask]
> Subject: Geiriau Cymraeg i ganeuon
>
> Rwyf wrthi'n cyfieithu rhaglen ar gyfer cyngerdd, yn cynnwys geiriau
> aria o Don Giovanni gan Mozart. Dyma'r Eidaleg gwreiddiol:
>
> Finch' han dal vino calda la testa,
> Una gran festa fa preparer!
> Se trovi in piazza qualche ragazza,
> Teco ancor quella cerca menar.
> Senza alcun ordine la danza sia,
> Chi 'l menuetto chi la follia,
> Chi l' alemana farai ballar.
> Ed io frattanto dall' altro canto
> Con questa e quella vo' amoreggiar.
> Ah la mia lista doman mattina
> D' una decina devi aumentar.
>
> Mae'r Saesneg wrth ochr yr Eidaleg ar y rhaglen (a'r ystyr ychydig yn
> wahanol!), ond dwy ddim yn gweld unrhyw bwynt dros gyfieithu o'r newydd
> os oes geiriau Cymraeg eisoes yn bodoli - ceir geiriau Cymraeg ar gyfer
> nifer o ariâu operatig .....
>
> Ac yna, ceir Lieder gan Schumann - pe bawn yn dal i ofio geiriau Cymraeg
> Widmung (a minnau eisoes wedi canu'r gân mewn Eisteddfodau ers
> blynyddoedd), fyddai gen i ddim problem - mae'r Gymraeg yn cychwyn, 'Ti
> yw fy einioes, ti fy nghân, fy ngwynfyd wyt ....... (wedi anghofio) ti
> ydyw'r byd rwyf ynddo'n trigo, fy ngwynfyd wyt i esgyn iddo, ti yw fy
> medd lle rhof i lawr am byth fy holl flinderau mawr. Yna, mae fy nghof
> wedi pallu eto tan y diwedd ..... "O ysbryd pur i fywyd gwell."
>
> Yna, ceir cân sy'n llwyr anghyfarwydd imi, sef Freisinn (geiriau gan
> Goethe), a Talismane (geiriau gan Goethe).
>
> Unrhyw oleuni o.g.y.dd.?
>
> Diolch,
>
> Helen
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
>^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^<
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|