Diolch i bawb am eu hatebion - y rhan fwyaf yn cadarnhau yr hyn yr oeddwn yn
ei gredu!
Hwyl
Catrin
----- Original Message -----
From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, November 21, 2001 2:35 PM
Subject: Re: Treiglo Enwau Siroedd
> Diolch yn fawr Lisa am restr ddefnyddiol iawn.
>
> Falle bod pobol Sir Ddinbych isio gwahaniaethu rhwng Dinbych y dref a Sir
> Ddinbych y sir.
> Os mai "Sir Ddinbych" ydi enw'r sir, mae'n gywir cadw'r treiglad os mai
> "Cyngor Sir Ddinbych" yn yr un ystyr â "Chyngor Gwynedd" sydd ganddyn nhw.
> Mi allen nhw alw'u hunain yn "Gyngor Sir Sir Ddinbych" ac yn yr un modd mi
> allai Gwynedd alw'i hun yn "Gyngor Sir Gwynedd".
> h.y. maen nhw'n trin "Sir Ddinbych" fel un gair. Ma'n swnio'n fwy
naturiol
> i mi beth bynnag (fel brodor o sir Ddinbych!)
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Tiplady, Lisa (OPO)" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, November 21, 2001 10:56 AM
> Subject: Re: Treiglo Enwau Siroedd
>
>
> Mae Cofnod y Cynulliad yn defnyddio'r enwau a ddefnyddir gan y cynghorau
sir
> eu hunain - yr wyf wedi paratoi'r rhestr isod yn seiliedig ar hynny.
>
> Hwyl,
> Lisa
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Bullock, David (OCG)
> Sent: 21 November 2001 10:53
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Treiglo Enwau Siroedd
>
>
> O ran cystrawen...
>
> Sir + enw = treiglad.
> Cyngor Sir + enw = dim treiglad.
>
> O ran hanes, fe fydd unrhyw un oedd yn byw cyn 1974 yn cofio mai Cyngor
Sir
> Môn, Cyngor Sir Mynwy etc oedd y cynghorau gwreiddiol yn ddigon
didrafferth
> a diddadl.
>
> Erbyn ein hoes ni, mae gyda ni ddwy broblem.
>
> 1. Mae gafael y rhan fwyaf o'r siaradwyr ar eu hiaith yn llai sicr, felly
> dyn nhw ddim yn gallu dadansoddi cyfuniadau gweddol elfennol fel yr un
yma.
>
> 2. Yn Neddf Ad-drefnu Llywodraeth Leol 199-rhywbeth a greodd yr
> awdurdodau lleol diweddara, rhoddwyd caniatâd i'r awdurdodau ddewis eu
henw
> eu hunain. Mae'r Ddeddf yn rhoi rhyw fformwla barod ar gyfer creu'r enw,
> ond drwy wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, roedd yna gyfle
i'r
> cynghorau newydd addasu'r enwau. Felly er bod y mwyafrif yn cadw'r ffurf
a
> roddwyd iddyn nhw drwy'r fformwla, mae ambell gyngor wedi newid eu henw.
> Dyna sut y cawson ni Cyngor Sir Ddinbych yn mynd yn groes i bron pawb
arall.
>
>
> Enghraifft arall o ddywediad Bedwyr Lewis Jones am hawl y bobl leol i fod
yn
> yn anghywir efallai?
>
> Original Message-----
> From: catrin alun [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 21 November 2001 10:41
> To: [log in to unmask]
> Subject: Treiglo Enwau Siroedd
>
>
>
> All unrhyw un fy ngoleuo ynghylch pryd i dreiglo enwau siroedd a phryd i
> beidio â gwneud! e.e. Cyngor Sir Caerfyrddin/ Sir Gaerfyrddin? Sir
Penfro?
> Oes yna unrhyw reol? - h.y. oes treigliad lle nad yw'r gair 'Cyngor' yn
cael
> ei ddefnyddio?
>
> Diolch
> Catrin
>
> _____________________________________________________________________
> This email has been scanned for viruses by the MessageLabs SkyScan
service.
>
> For further details, please see
> http://www.gsi.gov.uk/main/gncnotices/gncinformationnotice5_2001.pdf, or
> contact your departmental help desk.
>
> The Message Labs trial has been extended until further notice.
>
> In case of problems, please call your organisations IT helpdesk.
>
> _____________________________________________________________________
> This email has been scanned for viruses by the MessageLabs SkyScan
service.
>
> For further details, please see
> http://www.gsi.gov.uk/main/gncnotices/gncinformationnotice5_2001.pdf, or
> contact your departmental help desk.
>
> The Message Labs trial has been extended until further notice.
>
> In case of problems, please call your organisations IT helpdesk.
|