Gyfeillion
Hoffwn wahodd barn ynghylch y defnydd o'r brif lythyren wrth gyfeirio at
feysydd astudiaeth. Er enghraifft, pryd i ddefnyddio 'Celf' a phryd i
ddefnyddio 'celf'. Cynigiaf yr awgrym a ganlyn er mwyn i eraill anghytuno:
Dan amgylchiadau arferol defnyddir 'celf', 'gwyddoniaeth', 'hanes' ayyb.
Fodd bynnag defnyddir 'Celf', 'Hanes', 'Gwyddoniaeth' ayyb wrth gyfeirio'n
benodol at deitl cwrs neu deitl cymhwyster. Er enghraifft:
'Rwyf yn astudio hanes ac yn mynd i wersi hanes neu i ddarlithoedd hanes
gyda'r gobaith o ennill TGAU Hanes neu ennill gradd mewn Hanes. Mae'r
gwersi Hanes a'r darlithoedd Hanes o safon uchel. Mae'r athro/darlithydd
hanes yn trafod hanes a chynhelir y sesiynau Hanes bob prynhawn Mercher.'
Sylwadau?
Gareth Roberts
|