Sef:- “Gaslighting is a form of emotional and psychological abuse wherein a person uses verbal and behavioral tricks to convince another person they are losing their mind or—at the very least—cannot trust their own judgment. Why? To gain control.” *Psycom* Dydi’r gair ddim ar fy mhlât i ar hyn o bryd, diolch i’r drefn, ond – o gofio’r dymer wleidyddol sydd ohoni ar hyn o bryd, a phobl wrth y llyw ar ddwy lan yr Iwerdydd (heb sôn am wledydd eraill) sy’n diodda gan yr anhwyldera personoliaeth sy’n dod dan yr enw’r Triawd Tywyll (Narsisiaeth, Maciafeliaeth a Seicopathi) – yn hwyr ne’n hwyrach, synnwn i damaid na fydd gofyn i ni ddod i’r afael ag o. Heb sôn am faes seicoleg lle mae’n cael ei ddefnyddio’n fynych (ynghlwm â’r anhwyldera personoliaeth uchod). Felly dyma feddwl y baswn i’n achub y blaen. Mae’n ddyrys, wrth gwrs, gan fod y gair yn cyfleu cryn dipyn, ac yn deillio o enw’r ffilm Saesneg o’r un enw. Gyda llaw, does yna ddim cyfieithiad Eidaleg – gaslighting a ddefnyddir. Felly dewch i ni roi’n meddyliau ar waith wedyn fyddwn i’n barod amdani! Edrych ymlaen at weld be ddaw i’r fei gennych chi sgleigion. Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail> Mail priva di virus. www.avg.com <http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail> <#DAB4FAD8-2DD7-40BB-A1B8-4E2AA1F9FDF2> ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1