Print

Print


Onid ydy 'seiat y doethion' cystal, os nad gwell, term na 'think tank' i gyfleu'r ystyr y tu ôl iddo?  Er mai trin a thrafod pethau ysbrydol a wneid mewn 'seiat' yn wreiddiol, mae o'n cyfleu'r syniad o bobl yn dod at ei gilydd i ymchwilio'n ddwfn a thrafod pethau o bwys yn ddwys a difrifol a, hefyd, mae'n Gymreig ei naws (er mai benthyciad o'r Saesneg 'society' - 'soseiati' ydyw yn wreiddiol, yn ôl pob tebyg.  Ac mae hynny hefyd yn mynd â ni at y syniad o sefydliad, ble mae'r holl ymchwilio, y cyflwyno a'r trafod yn digwydd.).  Ac i fynd at ail ran y term, onid pobl ddeallus sydd wedi ymchwilio'n ddwfn a synhwyrol i bethau cyn dod i benderfyniad yw 'doethion'?



On Thu, Jun 20, 2019 at 10:51 AM Thomas, Melfyn <[log in to unmask]> wrote:
Siambr Syniadau;
Tŷ Trafod;
Beudy Barn;
Cell canfyddiad/canfyddiadau;
Cymuned Cysyniad;
Twlc Trafod;
Ystafell Ystyriaeth/Ystyried

Melfyn Thomas
Cyfieithydd / Translator
Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg / Welsh Language Services Department
Pencadlys yr Heddlu / Force HQ
Ffôn / Tel: 01492 804312
Estyniad/Extension: 04312
Ebost/Email: [log in to unmask]


     
     
     

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 20 June 2019 10:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Think tank

Dyma ddiffiniad gwasanaeth gyrfaoedd Prifysgol Rhydychen o'r term: "Think tanks are research institutes that seek to play a key role in making and influencing global, regional and national policy." Mae gwefan y gwasanaeth yn rhoi rhestr o'r sefydliadau hyn yn y DU yn ôl eu meysydd diddordeb a'u gogwydd gwleidyddol. https://www.careers.ox.ac.uk/think-tanks/

Mae rhestrau tebyg gan y Guardian, Wikipedia a Phrifysgol Newcastle, ymysg eraill.

Oes modd cadw'r gair 'melin' a chynnwys y gair 'syniadau' i gyfleu 'think'? Melin syniadau'?

Claire

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Jones
Sent: 20 June 2019 09:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Think tank

Ann Corkett:
>  Geiriadur yr Academi: think-tank: seiat (f) ddoethion (seiadau doethion)?
>  Fel dywedais ychydig ddyddiau'n ol, 'does neb yn meddwl am edrych yn 
> Geiriadur yr Academi mwyach.

Ga i gynnig bod GyA wedi'n methu ni yma: mae sawl ystyr i "think-tank", ac nid yw seiat ddoethion na melin drafod yn cyfleu'r un sydd erbyn hyn yn gyffredin.

Cyfeiriad at yr ymennydd oedd y term yn wreiddiol, yn yr Unol Daleithiau a cyn y Rhyfel Mawr.  Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif mae'r ystyr o seiat doethion wedi dod i fod.  (Mae "Tortoise" yn defnyddio'r term "think-in" sydd ag arlliw o Haight Ashbury y chwedegau iddo, ond sydd hyd y gwn i yn enw cymharol newydd.)

Ond os yw'r "think-tank" yn cyflogi rhywun, mi hoffwn i gynnig mai'r trydydd ystyr, un ddaeth i fod ar ôl yr Ail Ryfel Byd sydd yma.  Yn aml iawn mi fydd rhein yn ôl y cliché yn "right-wing think-tanks".  Mae nhw'n cyhoeddi barn a cynnig cyngor ar sail ymchil (beth bynnag mae rhywun yn ei feddwl o safon a rhagfarn yr ymchwil).  Nid seiat na melin mo'r Adam Smith Institute neu Legarum neu'r Bow Group neu Chatham House.  Sefydliadau ymchwil ydyn nhw, ac mi gynigiwn i mai rhywbeth felly ddylai'r enw fod.

Yn yr ystyr hwn, mae arlliw o (rag)farn i'r enw think-tank sydd ddim yn "sefydliad ymchwil", ond wela i ddim ffordd amlwg o gyfleu hynny heb draethu'n helaeth.

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1

______________________________________________________________________
This email has been scanned by the Symantec Email Security.cloud service.
For more information please visit http://www.symanteccloud.com
______________________________________________________________________
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg - byddwn yn ymateb yn gyfartal i’r ddwy ac yn ateb yn eich dewis iaith heb oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English - we will respond equally to both and will reply in your language of choice without delay.


Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad.   
Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
This communication is intended for the addressee(s) only.  Please notify the sender if received in error and erase from your system.  Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy.  Thank you for your co-operation.
North Wales Police


########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1


To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1