Print

Print


Bore da bawb

Sut mae'r awen greadigol bore 'ma?

Mae cyfaill sy'n ymwneud â "Plaid Pride" (grŵp cefnogwyr lesbiaidd, hoyw,
deurywiol a thraws Plaid Cymru) wedi cysylltu, maen nhw'n bwriadu gwneud
crysau-T sy'n dweud:

"More Pride - Less Prejudice"

Ac maen nhw'n awyddus i gael rhywbeth bachog yn Gymraeg y byddai modd ei
roi ar y crysau-T hefyd.

Tybed oes rhywun yn gallu meddwl am rywbeth fyddai'n gweithio yn Gymraeg?
Dw i wedi bod yn trio meddwl am enwau llyfrau/dramâu/rhaglenni teledu
Cymraeg y byddai modd eu haddasu mewn ffordd debyg... Maen nhw'n nodi nad
oes angen cyfieithiad llythrennol ond fod eisiau rhywbeth bachog!

Diolch yn fawr am unrhyw syniadau neu hanner syniadau!

Osian

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1