Print

Print


Pwy yw’r gynulleidfa?

Wrth ddewis term neu air ar gyfer testun swyddogol neu un a fydd yn cael ei ddosbarthu’n eang, bydd angen i ddarllenydd sydd ddim yn deall y term/gair allu edrych mewn ffynhonnell safonol er mwyn dod o hyd i’w ystyr.
Os nad yw’r ffurf yn ymddangos mewn ffynhonnell safonol y perygl yw na fydd y person yn gallu dod o hyd i ystyr y gair, na chwaith ganfod union ystyr y gair.
Yn achos Enwau Lleoedd  mae 'Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru' Comisiynydd y Gymraeg wedi disodli pob ffynhonnell flaenorol.

Yn achos geiriau/termau does dim ond dwy ffynhonnell safonol sy’n diffinio geiriau ac yn cynnig geiriau Saesneg cyfatebol, 'Geiriadur Prifysgol Cymru' a 'Geiriadur Cymraeg Gomer'.

Y cam cyntaf yw defnyddio’r ffurfiau a geir yma. Dyma’r ffynonellau a ddefnyddir gan ein Prifysgolion a’n hysgolion.
Os nad yw’r gair yn ymddangos yma, wedyn, gellir dilyn y llwybrau sy’n cael eu hawgrymu tuag at ffynonellau amgen.

O ran defnydd personol wrth gwrs, neu negeseuon mewn cywair arbennig– rhydd i bawb ei farn.

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> On Behalf Of Máire Nig Ualghairg
Sent: 15 September 2018 15:26
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyfrannau/Cyfranddaliadau

Rhaid cofio, wrth benderfynu rhwng Ty'r Cwmniau a Chlwb Peldroed, ei fod yn bosibl iawn mai'r un person fydd wedi'u cyfieithu - neu hyd yn oed bod cyfieithydd y clwb Peldroed yn deall y pwnc yn well na'r un wnaeth gyfieithiad Ty'r Cwmniau oni bai fod gan Dy'r Cwmniau gyfieithwyr mewnol sy'n dallt y dalltings.

On Sat, 15 Sep 2018 at 15:16, Neil Shadrach <[log in to unmask]> wrote:
>
> A phob parch bydda i'n cadw at y termau fel maen nhw cael eu defnyddio gan Tŷ'r Cwmnïau yn hytrch na clybiau pêl droed a thafarndai.
>
>
> Ar Sad, 15 Medi 2018 am 15:07 Brenda Jones <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
>>
>> O diar, yr -iadau sy’n ennill gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, a hyd yn oed Tafarn Sinc!
>>
>>
>>
>> Clwb pel droed Wrecsam yn defnyddio’r ddau …
>>
>>
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and 
>> vocabulary <[log in to unmask]> On Behalf Of Neil 
>> Shadrach
>> Sent: 15 September 2018 14:57
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Cyfrannau/Cyfranddaliadau
>>
>>
>>
>> Fel sy wedi cael ei ddweud yn barod: cyfran=share, 
>> cyfranddaliad=shareholding, ( cyfranddeiliad=shareholder )
>>
>>
>>
>> Ar Sad, 15 Medi 2018 am 14:34 Máire Nig Ualghairg <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
>>
>> Onid ydym wedi trafod hyn o'r blaen ryw dro, ac onid oeddet ti, 
>> David, wedi cyfeirio at ryw lyfryn gan y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain 
>> oedd yn sôn am gyfrannau yn hytrach na chyfranddaliadau - neu a yw fy 
>> nghof yn methu'n barod?
>> On Sat, 15 Sep 2018 at 14:30, brenda.llysgwen 
>> <[log in to unmask]> wrote:
>> >
>> > Do, mi welais i hynna. OND yn uwch i fynu ar y dudalen mae Com. 
>> > Fin: (in a company) :
>> > cyfran, cyfranddaliad (au).
>> >
>> > Ydi hyn yn golygu fod y ddau'n gywir tybed?
>> > 'Cyfran' sydd yn yr holl enghreifftiau wedyn, fodd bynnag. Mae o'n llai o lond ceg ac yn fyrrach i'w sgwenu, wrth gwrs.
>> >
>> >
>> >
>> > Sent from my Samsung Galaxy smartphone.
>> >
>> > -------- Original message --------
>> > From: David Bullock <[log in to unmask]>
>> > Date: 15/09/2018 14:19 (GMT+00:00)
>> > To: [log in to unmask]
>> > Subject: Re: Cyfrannau/Cyfranddaliadau
>> >
>> > Mae Geiriadur yr Academi'n rhestru 'cyfranddaliad' fel y gair Cymraeg am 'shareholding' ac mae'n dda cael gwahaniaethu rhwng 'share' a 'shareholding', am wn i.
>> >
>> >
>> >
>> > Cwmni DB Cyf
>> >
>> > 62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH
>> >
>> > (029) 20486677 neu 07758358236
>> >
>> > Cofrestrwyd yng Nghymru: 04990174
>> >
>> > On 15 September 2018 at 13:42 Brenda Jones <[log in to unmask]> wrote:
>> >
>> > Dwi wedi drysu’n llwyr erbyn hyn, felly meddwl y byddai’n well 
>> > gofyn hyn dan bennawd ar wahân I’r treiglo …
>> >
>> >
>> >
>> > Sôn am brynu ‘shares’ mewn cwmni cydweithredol, - tafarn leol – sydd yma.
>> >
>> >
>> >
>> > Dyma beth sydd gan Term Cymru
>> >
>> > shares
>> > cyfrannau
>> >
>> > o    In a general sense e.g. share of profit, share of cake etc.
>> >
>> > o
>> >
>> > shares
>> > cyfranddaliadau
>> >
>> > o    On stock market.
>> >
>> > o
>> >
>> > Mae Blog mawr Cymru yn dweud ‘Cyfranddaliadau Cymunedol’ am ‘Community Shares’.
>> >
>> >
>> >
>> >
>> >
>> > ________________________________
>> >
>> > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>> > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYM
>> > RAEG&A=1
>> >
>> >
>> >
>> >
>> > ________________________________
>> >
>> > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>> > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYM
>> > RAEG&A=1
>>
>> #####################################################################
>> ###
>>
>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRA
>> EG&A=1
>>
>>
>>
>> ________________________________
>>
>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRA
>> EG&A=1
>>
>>
>> ________________________________
>>
>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRA
>> EG&A=1
>
>
> ________________________________
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAE
> G&A=1

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1