Print

Print






[cid:image001.jpg@01D28B93.F788B270]




[cid:image002.jpg@01D28B93.F788B270]                            [cid:image003.jpg@01D28B93.F788B270]






Penodi Cadeirydd (Cymraeg yn hanfodol) a Chomisiynwyr (Dwy swydd)<http://llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus>



Cydnabyddiaeth ariannol:

Cadeirydd: £198 y diwrnod (a chostau Teithio a Chynhaliaeth) am ymrwymiad amser o ryw 15 diwrnod y flwyddyn

Comisiynwyr: £198 y diwrnod (a chostau Teithio a Chynhaliaeth) am  ymrwymiad amser o ryw 10 diwrnod y flwyddyn.

________________________________

Allwch chi’n helpu i ddarparu'r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl ar gyfer pobl Cymru?

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn wasanaeth archifo ac archwilio cenedlaethol annibynnol unigryw i Gymru, ac mae’n ymroi i gofnodi a dehongli'n hamgylchedd hanesyddol cyfoethog mewn ffordd awdurdodol. Mae'n gweithio o adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ac yn gweithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac mae ganddo staff medrus sy'n rhoi cyngor proffesiynol a gwybodaeth arbenigol i'r cyhoedd. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i Gymru, gan feithrin gwell gofal a dealltwriaeth o'n hadeiladau a'n tirweddau hanesyddol, a meithrin a chydnabod y potensial sydd gan dreftadaeth i helpu i wella bywydau pobl.



Gan adeiladu ar ein llwyddiannau ac ar yr hyn a gyflawnwyd yn ddiweddar, rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n Bwrdd Comisiynwyr a fydd yn barod i helpu i gyfarwyddo'n gwaith ac i'w herio a'i adolygu mewn ffordd adeiladol. Rydym wedi ymrwymo i atgyfnerthu'n bwrdd ac i gyflwyno amrywiaeth o ran yr aelodau, felly rydym yn chwilio am Gadeirydd a dau Gomisiynydd newydd sydd â chryn brofiad neu arbenigedd ar lefel uwch a/neu ar lefel strategol mewn un neu fwy o’r meysydd a ganlyn:



  1.  Cadeirydd: Y Cadeirydd sy'n gyfrifol, ar ran y Goron, am sicrhau bod y Comisiwn Brenhinol yn gweithredu mewn modd sy’n gydnaws â’r ysbryd sy’n sail i’w waith, ac ef/hi sy'n sicrhau bod gweithgareddau'r Comisiwn yn cydymffurfio â'r dyletswyddau sydd wedi'u corffori yn y Warant Frenhinol sy’n sail i’w gyfansoddiad. Rydym yn awyddus i recriwtio Cadeirydd a fydd yn gallu cynnig arweiniad strategol a meithrin perthynas gadarnhaol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid.



  1.  Pensaernïaeth yr ugeinfed ganrif: Rydym yn awyddus i recriwtio Comisiynydd sydd â dealltwriaeth gadarn o adeiladau a thechnegau adeiladu'r cyfnod ac sydd â'r weledigaeth strategol i'n helpu i flaenoriaethu'n gwaith a chynghori'r Comisiwn ar arwyddocâd posibl mathau o adeiladau, adeiladau unigol a thirweddau sydd wedi’u cynllunio.



  1.  Treftadaeth forol: Rydym yn awyddus i recriwtio Comisiynydd sydd â phrofiad yn y maes i gynghori'r Comisiwn am flaenoriaethau strategol er mwyn sicrhau bod arwyddocâd treftadaeth forol Cymru yn cael ei ddeall, ei hyrwyddo a’i ddiogelu'n ddigonol.


Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 16 Medi 2018. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw. Disgwylir i’r cyfweliadau ar gyfer y Cadeirydd gael eu cynnal ar 26 Tachwedd a’r cyfweliadau ar gyfer y Comisiynwyr ar 27/28 Tachwedd.
I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, ewch i http://llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>.


Appointment of a Chair (Welsh Essential) and Commissioners (Two Posts)
<http://wales.gov.uk/publicappointments>

Remuneration:

Chair: £198 per day (plus T&S) for a time commitment of around 15 days a year

Commissioners: £198 per day (plus T&S) for a time commitment of around 10 days a year.





________________________________

Can you help us to deliver the best possible historic environment services for the people of Wales?



The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales is the unique, independent national archive and investigation service for Wales, dedicated to the authoritative recording and interpretation of our rich historic environment. Located within the National Library of Wales building in Aberystwyth, we operate at arm’s-length from the Welsh Government, with skilled staff providing professional advice and expert information to the public. We’re committed to delivering the best possible historic environment service for Wales, fostering greater understanding and care for our historic buildings and landscapes, and recognising the potential for heritage to help improve people’s lives.



Building on our recent successes and achievements, we’re now looking to grow and develop our organisation for the future. We’re looking for people to join our Board of Commissioners who are prepared to help direct, challenge and constructively review our work. We’re committed to strengthening and diversifying our board, and so are looking for a Chair and two new Commissioners who have significant experience or expertise at a senior and/or strategic level in one of these areas:



  1.  Chair: The Chair is the guardian on behalf of the Crown of the spirit of the Royal Commission and ensures that the Commission’s activity conforms to the duties enshrined in the Royal Warrant under which it is constituted. We wish to recruit a Chair who can provide strategic guidance and build positive relationships with a wide range of stakeholders.



  1.  Twentieth-century architecture: We wish to recruit a Commissioner with a firm understanding of buildings and constructional techniques of the period and with the strategic vision to help us prioritise our work and advise the Commission on the potential significance of building types, individual buildings and planned townscapes.



  1.  Maritime heritage: We wish to recruit a Commissioner with experience in this field to advise the Commission on strategic priorities to ensure that the significance of Wales’s maritime heritage is understood, promoted, and given adequate protection.



The closing date for receipt of applications is 16 September 2018. Application forms received after this date will not be considered. It is expected to hold interviews on 26 November for the Chair and 27/28 November for Commissioners.

For further details and to apply go to http://wales.gov.uk/publicappointments or for queries, email [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>.







Nicola Roberts
Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd | Public Engagement Officer 
Ffordd Penglais | Penglais Road, Aberystwyth, SY23 3BU
+44 (0) 1970 621 248
[log in to unmask] | [log in to unmask]
www.cbhc.gov.uk | www.rcahmw.gov.uk
Noddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn peri oedi.
We welcome correspondence in Welsh and English. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.

########################################################################

To unsubscribe from the MUSEUMS-INFO list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=MUSEUMS-INFO&A=1