Yn achos chwerthin, felly, byddai ‘gl’anna’ chwerthin’ yr un peth â’r Saesneg ‘to die laughing’ = “To laugh very hard or at length. We all died laughing when we saw Dave's Halloween costume.” Fel mae Gyr A yn nodi o dan ‘die’ (berf) ystyr 2. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 25 July 2018 11:58 To: [log in to unmask] Subject: celaneddau + Freedom of Information Compliance Officer O ran diddordeb, 'rwyf wrthi'n cyfieithu adroddiadau papur newydd gan gapeli adeg Diwygiad 1905, ac wedi dod o hyd i'r isod: "Ni allai neb godi oddiar ei liniau am tua awr a haner, ac nis gallwn yn ein byw feddwl am ddesgrifio yr olygfa. Yr oedd y rhan fwyaf o'r brodyr yn gelaneddau - y fath wylo, ocheneidio, a chwerthin boddhaus, a'r gweddio gorfoleddus!" Mae'r ystyr bras yn amlwg, ond sut i'w gyfieithu? Tynnodd Bruce gymhariaeth a'r ymadrodd "gl'anna' chwerthin" a daethom i'r casgliad mai "overcome" (efallai'n gorwedd yn ddiymadferth?) fyddai'r cyfieithiad gorau. Gwelaf fod ychydig o drafodaeth wedi bod rhwng Anna Gruffydd a Berwyn Prys Jones dan y pennawd "Freedom of Information Compliance Officer"(!) yn 2003 (isod). Gobeithio y bydd yr uchod yn gyfraniad defnyddiol. Ann Byddai 'wherthin dros y lle' a 'wherthin 'i hochor hi' yn bosib hefyd. Fe gymerais, yn fy anwybodaeth, mai o 'glannau' (bod ysgwyddau dyn wrth chwerthin yn debyg i ddwy lan afon?) oedd tarddiad 'g'lanna'. Dwi ddim yn siw^r iawn beth yw'r cysylltiad rhwng 'celanedd' a chwerthin, chwaith, oni bai bod gweld llond maes brwydr o gelanedd yn gwneud o ogleddwyr chwerthin ... Fe gawn ni 'meal of tongue' am drafod hyn dan 'F of E Comp. Officer'! Berwyn ----- Original Message ----- From: "annes" <[log in to unmask]<https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?LOGON=A2%3Dwelsh-termau-cymraeg%3B8f9e33bd.0312>> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]<https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?LOGON=A2%3Dwelsh-termau-cymraeg%3B8f9e33bd.0312>> Sent: Friday, December 19, 2003 8:34 PM Subject: Freedom of Information Compliance Officer > Celanedd - oeddwn, Berwyn - be fasat ti'n ddeud - bron marw o chwerthin? > Dwi'n meddwl mai ni Gogs pia hi yn fama. Ond a bod yn deg ella mai chi > hwntws pia hi hefo 'meal of tongue'. > > Annes -- 5 Heol Belmont BANGOR Gwynedd LL57 2HS (01248) 371987 [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> ________________________________ To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1