Print

Print


All rhywun esbonio'r gystrawen yn "Casgliad y Werin Cymru" imi?

Fel hyn dwi'n gweld pethau:

Mae ffrind gen i, sy'n chwarae i glwb pĂȘl-droed.

Pa glwb?

Clwb y pentre.

Diddorol, clwb pa bentre felly?

Clwb pentre Heolgerrig

Yn yr un modd ...

Mae yna gasgliad

Oes e wir? Pa gasgliad?

Casgliad y werin.

Gwedwch chi... casgliad pa werin?

Casgliad gwerin Cymru.

O ble felly daeth "Casgliad y Werin Cymru"?!

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1