Print

Print


This is a bilingual message - Please see below for English version / Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg


Storio Synhwyrol – Newid Arferion o safbwynt Storio mewn Archifau a Storio mewn Amgueddfeydd
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
13 Gorffennaf 2018  10.30 – 16.30

Caiff y gynhadledd hon na chodir tâl amdani ei chynnal gan y Gwasanaeth Cadwraeth Cenedlaethol, mewn partneriaeth ag Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.

Bydd y gynhadledd yn cyflwyno ac yn trafod y modd y mae’r safonau Prydeinig ac Ewropeaidd newydd ar gyfer gwarchod treftadaeth yn annog sefydliadau i roi’r gorau i ddefnyddio systemau aerdymheru ar gyfer storio ac arddangos, gan yn hytrach ddechrau defnyddio dulliau cynaliadwy nad ydynt yn defnyddio llawer o ynni ar gyfer rheoli tymheredd.

Byddwn yn clywed am y safonau eu hunain, cymhariaeth rhwng dulliau mwy cynaliadwy a systemau aerdymharu a hefyd yn clywed sut y gall fod yn ddewis ymarferol mewn adeiladau presennol yn ogystal ag adeiladau newydd. Bydd cyfres o astudiaethau achos gan archifwyr, ceidwaid amgueddfeydd, gwarchodwyr, penseiri a pheirianwyr sydd wedi bod yn rhan o waith gwaredu systemau aerdymheru mewn adeiladau presennol. Cawn glywed ganddynt y canlyniadau a’r cynnydd a gyflawnwyd, gwaith adnewyddu sy’n cyflwyno dulliau mwy cynaliadwy a hefyd ddyluniadau newydd sy’n ceisio newid y ffordd yr ydym yn cynllunio’r gofal hirdymor o gasgliadau gan ddefnyddio llai o ynni.

Bydd panel o’r sector yn rhoi cyfle i ni glywed gan gynrychiolwyr o sefydliadau sy’n llunio polisïau ac yn dylanwadu ar sefydliadau eraill. Bydd y rhain yn trafod y modd y maent yn defnyddio safonau er mwyn gwerthuso llwyddiant sefydliadau. Byddwn yn anfon rhaglen fanwl atoch cyn gynted ag y bydd yn gyflawn.

Ni chodir tâl am y gynhadledd hon.  I archebu eich lle anfonwch e-bost at Seaneen  [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> a chofiwch roi eich enw, teitl eich swydd, sefydliad, cyfeiriad ac e-bost/rhif ffôn cyswllt.

[X]

'Passive Aggressive?' - Changing the Climate in Archival and Museum Storage
National Library Wales
13th July 2018  10.30 – 16.30

This free conference is provided by NCS (National Conservation Service) in partnership with the Museums, Archives and Libraries Division of the Welsh Government.

The conference will present and discuss the manner in which the new British and European standards for heritage conservation urge institutions to move away from air-conditioned storage and display and towards sustainable, low energy passive means of managing internal climates.

We will hear about the standards themselves, a comparison of passive methods and air conditioned systems and why passive control can be a viable alternative in existing buildings as well as in new designs.  There will be a series of case studies from archivists, museum custodians, conservators, architects and engineers who have been involved in switching off air conditioning in existing buildings and the results and progress they made, refurbishments that introduce passive approaches, and new building designs that seek to change the way we plan the long term care of collections with lower energy use.

A sector panel will give us the chance to hear from representatives of policy-making and influencing organisations addressing how they use standards to evaluate the success of institutions.  A detailed programme will be sent out as soon as it is complete.

There is no charge for delegates to attend.  To book your place, please email Seaneen at [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> and provide your name, job title, organisation, address and contact email / telephone number.


Tîm Datblygu'r Gweithlu – Workforce Development Team
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Department for Economy, Science and Transport
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Government
Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
Ffon/Tel: 0300 062 2458
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>



Wrth adael Llywodraeth Cymru sganiwyd y neges yma am bob feirws. Mae’n bosibl y bydd gohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei logio, ei monitro ac/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol. Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. On leaving the Welsh Government this email was scanned for all known viruses. Communications with Welsh Government may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes. We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.