Print

Print


Dw i'n medwl bod y 'predetermined' yma'n rhywbeth yn y maes seiciatryddol - rhywbeth sydd wedi ei bennu'n barod, yn naturiol, mewn unigolyn oherwydd geneteg/profiadau bywyd ac ati?? Falle mod i'n anghywir, ond dyna sy'n fy nharo i oherwydd y gair 'behavioural'

Os felly byddwn yn dadlau nad peth wedi ei osod ydy hwn - mae GyrA yn cynnig 'gosodedig' am 'predetermined' ym maes Economeg lle mae rhywun yn gosod targedau ac ati. Os yw hwn yn rhywbeth corfforol, beth am 'dewis ymddygiadol rhagordeiniedig ??' 'dewis ymddygiadol a bennwyd eisoes ?'? Dewis heb ddewis mewn ffordd.

Mae'n siwr bod syniadau gwell na hynny am derm cofiwch,
Sian

> Date: Fri, 6 Mar 2015 11:08:20 +0000
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: predetermined behavioural choice
> To: [log in to unmask]
>
> Mae'r Porth Termau a GyrA yn cynnig "gosodedig" am "predetermined".
>
> "dewis ymddygiadol gosodedig" felly?
>
> Siān
>
>
> On 2015 Mawrth 6, at 10:52 AM, Dafydd Timothy wrote:
>
> > Bore da... llond ceg, ond be rowch chi am:
> >
> > predetermined behavioural choice ?
> >
> > Diolch,
> > Dafydd