Dw i’n meddwl mai dod o hyd i ffynhonnell ar gyfer nwyddau/gwasanaethau yw’r ystyr Claire - - y cam cyntaf yn y broses gaffael – y camau wedyn ydy ‘transact’; ‘pay’ ac ‘analyse’.
Carolyn
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 3 Mawrth 2015 12:19
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Source - berf
Beth yw’r camau wedyn? Oes cliw o’r rheiny beth yw ystyr y ferf ‘source’ yma?
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 03 March 2015 12:02
To: [log in to unmask]
Subject: Source - berf
Oes gan rywun ffordd dwt o fynegi ‘source’?
E.e. ‘to source materials’.
Mae’n iawn pan fydd gan rywun wrthrych – mae’n bosib defnyddio rhywbeth cwmpasog e.e. dod o hyd i /cael gafael ar bethau
Ond be sgen i heddiw ydy ‘source’ ar ei ben ei hun, sef y cam cyntaf wrth gaffael.
Unrhyw awgrym?
Diolch
Carolyn