Print

Print


Ond mae gwahanol eiriau wedi'u defnyddio felly mae hynny'n wir amdanyn nhw i gyd. 


Sent from Samsung Mobile



-------- Original message --------
From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
Date: 03/03/2015 14:54 (GMT+00:00)
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: : Source - berf


Popeth yn iawn, ond i rywun ganfod ffordd o nodi yn nogfennau’r dyfodol fod ‘canfod’ bellach wedi disodli beth oedd yn ‘ffynonellu’ mewn dogfennau cynharach. Fel arall, mae croesgyfeirio rhwng dogfennau pwrpasol yn y maes yn mynd  i fod tu hwnt o anodd.

 

Yn iach,

 

T

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 03 March 2015 14:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: : Source - berf

 

'canfod' ddaeth i'm meddwl i yn syth, ac ar ol darllen yr holl drafodaeth dwi heb newid fy meddwl!

Geraint

On 03/03/2015 14:25, Carolyn Iorwerth wrote:

Pwynt diddorol arall yw y byddai rhywun yn gyndyn iawn o ddefnyddio ‘tarddu’ yn yr un ffordd.

Carolyn

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 3 Mawrth 2015 13:44
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: ATB/RE: Source - berf

 

Fel pob geiriadur dan haul, bydd GPC wrthi o hyd yn gweithio’n galed i gadw i fyny gyda thwf yr iaith o ddydd i ddydd. Mae llu o enghreifftiau o ‘ffynonellu’ fel berf anghyflawn, ac annoeth fyddai peidio â chydnabod hyn. (Cefais ar ddeall gan ffrind fod rhywrai wedi gwrthwynebu, yn yr un modd, y defnydd o desaparacer fel berf anghyflawn mewn Castileg De America).

Yn iach,

Tim

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 03 March 2015 13:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Source - berf

 

Wrth Wglo ‘ffynonellu’  fe ddes i ar draws y drafodaeth hon

https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?A2=welsh-termau-cymraeg;6fd13d55.0703

 

A dw i’n tueddu i gytuno efo Siân (wyt ti’n cofio Siân?) mai ‘tarddu o ffynhonnell’ yw ystyr ffynonellu (a dyna ddywed GPC hefyd). Wedi dweud hynny, mae ‘na enghreifftiau o ffynonellu’n cael eu defnyddio ar y we am ‘to source’. Ddim yn siŵr i ba raddau mae’r ferf wedi hen ennill ei phlwy chwaith ond ella fod y maes yn fwy dieithr i mi nag i ti Tim.

Carolyn

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 3 Mawrth 2015 12:43
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Source - berf

 

Caf deimlad cryf fod y ferf ‘ffynonellu’, yn cwmpasu pob cam o’r chwilio i’r cyrchu a’r caffael, wedi hen ennill ei phlwyf.

 

Yn iach,

 

Tim

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Sent: 03 March 2015 12:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Source - berf

 

Os yw o unrhyw gymorth, mae Geiriadur Rhydychen yn rhoi dau ddiffiniad o’r ferf ‘source”

 

with object

1.       Obtain from a particular source:

each type of coffee is sourced from one country

 

2.       Find out where (something) can be obtained:

she was called upon to source a supply of carpet

 

Oes modd gwybod / dyfalu a yw’n golygu ‘cael’ neu ‘canfod ffynhonnell’ yn y cyd-destun hwn?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 03 March 2015 12:02
To: [log in to unmask]
Subject: Source - berf

 

Oes gan rywun ffordd dwt o fynegi ‘source’?

E.e. ‘to source materials’.

 

Mae’n iawn pan fydd gan rywun wrthrych – mae’n bosib defnyddio rhywbeth cwmpasog e.e. dod o hyd i /cael gafael ar bethau

Ond be sgen i heddiw ydy ‘source’ ar ei ben ei hun, sef y cam cyntaf wrth gaffael.

 

Unrhyw awgrym?

Diolch

Carolyn

 

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad