Print

Print


Mae’n debyg nad oes unrhyw dystiolaeth mai John Bradford a ddywedodd y geiriau hyn http://www.phrases.org.uk/meanings/there-but-for-the-grace-of-god.html

 

Yn y Cofnod ceir yn aml amrywiadau ar ‘Gallwn i / innau fod yn yr un sefyllfa’ i gyfieithu’r ymadrodd.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 25 March 2015 11:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: There but for the grace of God

 

Wn i ddim am ddim byd cyfateb yn y Gymraeg, ond chwiliais am darddiad yr ymadrodd. Mae'n cael ei briodoli i sawl un, ond dywedir i'r merthyr John Bradford (ganwyd 1510) arfer dweud, wrth weld dynion yn mynd i gael eu crogi ""But for the grace of God there goes John Bradford,".  Chwiliais wedyn am "John Bradford" + "gras Duw" a chael 'Full text of "Pregethau y parchedig Owen Thomas"', lle ceir " Dacw John Bradford,
oni buasai gras Duw.", felly beth am "Oni buasai gras Duw, dacw fi"?

Mi allwn i ysgrifennu cyfrolau am y Gelli. (Mae'r gwreiddiol yn swnio fel slogan o gerdyn post Edwardaidd.)

Ann


On 25/03/2015 10:49, Menna Davies (CSP - Communications Services) wrote:

Bore da.  A oes rhywun yn gwybod am ddywediad Cymraeg sy’n cyfleu “There but for the grace of God”?

 

Hefyd, ry’n ni wedi derbyn cais gan Lyfrgell Y Gelli  Full text of "Pregethau y parchedig Owen Thomas"i gyfieithu  capsiwn ar gartŵn  :

 

“Having a “novel” time at Hay-on-Wye”!

 

 

Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw syniadau!

 

Diolch yn fawr

 

 

Menna


Mae'r e bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu gyda Cyngor Sir Powys ar unwaith. Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud gyda busnes swyddogol Cyngor Sir Powys yn bersonol i'r awdur ac nid yw'n awdurdodedig gan y Cyngor.

This e mail and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact Powys County Council at once. Any content that is not pertinent to Powys County Council business is personal to the author, and is not necessarily the view of the Council.


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5751 / Virus Database: 4315/9377 - Release Date: 03/25/15