Cwrs hyfforddiant CyMAL
Cwrs: Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb i Bobl Anabl
Lleoliad: Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor
Dyddiad: 19 Ionawr 2015
Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae'n addas ar gyfer y rheini staff y rheng flaen a’r rhai hynny
sy’n datblygu polisïau, yn cynllunio arddangosfeydd ac yn rheoli gwasanaethau.
Amcanion
I’r rhai sy’n cymryd rhan i weld yr amrywiaeth o bobl sydd â nam sy’n anabl gan Gymdeithas, i ddeall eu hawliau cyfreithiol â’r hyn sy’n arfer cynhwysol da ar gyfer defnyddwyr amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd sy’n anabl.
Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy’n dilyn y cwrs yn gallu
- Deall modelau damcaniaethol gwahanol anabledd a chydnabod y Model Cymdeithasol fel y model sy’n cael ei ffafrio gan bobl anabl.
- Edrych ar y mythau cyffredin a chanfyddiadau anabledd.
- Cyflwyno dealltwriaeth sylfaenol o ddeddfwriaeth gwrth-wahaniaethol sy’n cael effaith ar bobl anabl.
- Dadansoddi astudiaethau achos i ddeall yn well yr hyn a olygir gan wahaniaethu anghyfreithlon.
- Rhoi gwybodaeth ymarferol o foesddefodau anabledd i’r rhai sy’n cymryd rhan a’u galluogi i adnabod ieithwedd wahaniaethol.
- Gweld sut y caiff anabledd ei bortreadu mewn llenyddiaeth, ffilm a gan y cyfryngau a sut y mae hyn weithiau’n arwain at stereoteipio negyddol.
- Deall egwyddorion cynllunio cynhwysol da ac agweddau ar arfer da i hwyluso mynediad i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.
Cofrestru
Dim ond dau gais y gellir eu derbyn oddi wrth bob sefydliad. Fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Ar ôl ichi gyflwyno eich cais bydd sgrin olaf EventBrite yn dweud ‘Rydych chi’n mynd
i ……” ac efallai y byddwch yn cael e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cwrs. Mae’n bwysig cofio nad yw’r e-bost hwnnw’n gadarnhad bod lle wedi ei neilltuo ar eich cyfer. Yn hytrach, mae’n cadarnhau bod eich cais wedi ei gyflwyno,
ac ni allwch fod yn sicr o’ch lle nes ichi gael gwahoddiad i’r cwrs oddi wrth CyMAL.
Cewch fynegi eich diddordeb yn y cwrs drwy glicio ar ddolen EventBrite isod.
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Lauren Baldwin ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask]
neu ffoniwch 0300 062 2251 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.
Seaneen McGrogan
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL : Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL : Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2261