Print

Print


CyMAL Cwrs rhad ac am ddim

Diogelwch Personol
Tŷ Weindio
18 Medi 2014

Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae'n addas ar gyfer staff rheng flaen sydd angen delio â sefyllfaoedd anodd neu wrthdaro yn hyderus.

Nod
Nod yr hyfforddiant yw rhoi cyfle i bawb delio â’r cyhoedd feithrin:
a)      y gallu i adnabod sefyllfa a allai droi’n dreisgar, a hynny’n gynnar iawn.
b)      technegau ymarferol er mwyn delio â rhywun dig neu ymosodol.
c)      gwella sgiliau diogelwch personol.
d)      sgiliau ymhlith staff rheng flaen i ddelio â straen
e)      mwy o ymwybyddiaeth o faterion diogelwch yn y gwaith, yn y gymuned ac wrth ymweld â chartrefi cwsmeriaid a chleientiaid.
f)      gwella sgiliau cyfathrebu.
g)      dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng Risg Ymddangosiadol a Risg Wirioneddol er mwyn lleddfu straen.
h)      Dealltwriaeth o’r gofynion Iechyd a Diogelwch sydd ar gyflogwyr o ran staff Y RHENG FLAEN.

Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sydd wedi dilyn y cwrs yn:

•       gallu delio’n hyderus â gwrthdaro
•       deall penderfyniadau’r rheolwyr yn well
•       gallu cyfathrebu yn well
•       gallu dilyn gweithdrefnau diogelwch sy’n hawdd eu defnyddio.
•       gwybod pam fod profiad bywyd go iawn yn wahanol i’r profiad o ddysgu mewn llyfr
•       teimlo’n fwy hyderus am eu technegau ar gyfer delio â rhywun dig
•       gallu delio ag ymddygiad ymosodol yn hyderus a’i stopio pan fo’n digwydd
•       deall yn well sut mae rhwystredigaeth yn cynyddu mewn gwrthdaro. Bydd y technegau a drafodwyd yn lleihau STRAEN.

Dulliau Hyfforddi
Gweithgaredd ryngweithiol

Paratoi
Dim

Hyfforddwr
Mae prif gynghorwr S.T.A.M.P, Kevin Morris yn 5ed ddan Gwregys Ddu mewn Karate Dull Rhydd. Mae’n gyn-bencampwr Bocsio Thai ym Mhrydain ac yn Ewrop heb gael ei guro, ac yn bencampwr Bocsio Cic Dull Rhydd y Byd. Mae hefyd yn gyn-focsiwr proffesiynol a gyrhaeddodd safle rhif 1  o dan Fwrdd Rheoli Bocsio Prydeinig yn y dosbarth uwch-bwysau Bantam.  Mae wedi bod yn Gynghorydd Diogelwch Personol am 28 o flynyddoedd.
Cofrestru
Dim ond dau gais y gellir eu derbyn oddi wrth bob sefydliad. Fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Ar ôl ichi gyflwyno eich cais bydd sgrin olaf EventBrite yn dweud ‘Rydych chi’n mynd i ……” ac efallai y byddwch yn cael e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cwrs. Mae’n bwysig cofio nad yw’r e-bost hwnnw’n gadarnhad bod lle wedi ei neilltuo ar eich cyfer. Yn hytrach, mae’n cadarnhau bod eich cais wedi ei gyflwyno, ac ni allwch fod yn sicr o’ch lle nes ichi gael gwahoddiad i’r cwrs oddi wrth CyMAL.

Cewch fynegi eich diddordeb yn y cwrs drwy glicio ar ddolen EventBrite isod.

http://www.eventbrite.com/e/personal-safety-18-september-2014-diogelwch-personol-18-medi-2014-registration-12736363807?aff=mail

Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.

Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Lauren Baldwin ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask]  neu ffoniwch 0300 062 2251 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.

Lauren Baldwin
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL : Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL : Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhoddfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2251
[log in to unmask]
CyMAL contact number : 0300 062 2112

Dylai unrhyw ddatganiadau neu sylwadau a wneir uchod gael eu hystyried yn rhai personol ac nid yn rhai gan Lywodraeth Cymru, unrhyw ran ohoni neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig â hi.

Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not those of the Welsh Government, any constituent part or connected body.

• Please consider the environment - do you really need to print this email?
Ystyriwch yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn?




On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free.  Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon.  Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.