Print

Print


I ateb be ddeudaist ti, Tim:-

Nac oes, honni maen nhw - ond pwy dwi i i wadu hynny? taswn i'n ymorol bod pob un act mewn neuadd gyngerdd neilltuol yng Nghymru go iawn wedi cael clod gan ryw feirniad neu'i gilydd faswn i byth yn medru gneud y gwaith - llyfryn deufis, efo rhywbeth gwahanol bob nos ac weithia yn ystod y dydd hefyd - sgersli bilif! Gan nhw honni eu clod gan y beirniaid ac mi ddalia i at fy ffyrdd glogyrnaidd o'i fynegi!  Ar yr un perwyl, fwy neu lai, un o'n trafferthion ni fel cyfieithwyr, ynte, ydi'r ffaith bod y Saesneg yn gallu defnyddio unrhyw rangymeriad yn ansoddeiriol ac yn amlach na heb dan ni'n gorfod defnyddio ymadrodd neu gymal, sydd, gwaetha'r modd, yn gneud ein brawddega ni'n glogyrnaidd ac yn ein gorfodi ni i fynd o'i chwmpas hi mewn ffordd wahanol.


Anna