Aha! Felly, "cydweithio â" ond "gweithio gyda". Tybed ai'r "cyd-" yma sydd yn "cymysgu" felly? Siân On 2013 Chwef 14, at 9:27 PM, Mary Jones wrote: > Dyma fi wedi newid teitl y trafod. > Yr esboniad rydw i wedi’i gael dros ddefnyddio ‘â’ gyda ‘cyfathrebu’ yw bod yr elfen ‘cyd-‘ eisoes yn y gair, cyf+(go)hebu. A’r un fath gyda nifer o eiriau eraill, e.e. cyfathrachu, cymharu, cysylltu. > Mary > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn > Sent: 14 February 2013 15:28 > To: [log in to unmask] > Subject: ATB: ATB: a/gyda > > Erbyn meddwl, mae'n ymddangos bod gwahanol ferfau'n dilyn trefn wahanol o ran defnyddio â/gyda. e.e. Fyddai neb yn defnyddio â wrth son am siarad drwy 'offeryn' e.e. meicroffôn, ac mae'r un peth yn wir am 'gyfathrebu'. Difyr! > > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd > Anfonwyd/Sent: 14 Chwefror 2013 15:22 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: ATB: mingle > > a pherthynas a^ rhywun - taswn i'n gweld perthynas gyda rhywun mi faswn i'n gwaredu. 'Efo' piau hi wedyn fasa na mo'r fath strach! > > Anna > > 2013/2/14 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Sori, ie - a dw i wedi bod digon hallt fy meirniadaeth o'r cyfryngau yn dweud pethau fel "Roedd hi'n dringo'r mynydd â'i ffrind"! > > Eto - rŷn ni'n siarad / cyfathrebu / cyfathrachu â phobl - sy'n broses ddwy ffordd. > Ydi'r rheiny run peth? > > Diolch > > Siân > > > On 2013 Chwef 14, at 2:48 PM, Carolyn wrote: > > > Cytuno Mary, > Carolyn > > > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Mary Jones > Anfonwyd/Sent: 14 Chwefror 2013 14:47 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: mingle > > Gaf fi ofyn cwestiwn ar gorn hyn, os gwelwch yn dda? I fi, ‘rhannu teisen â chyllell etc’ ond ‘rhannu teisen gyda ffrind’ sy’n gywir. Hynny yw, offerynnol yw ystyr ‘â’. Neu a ydw i’n hollti blew? Diolch, > Mary > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Tegwen Williams > Sent: 14 February 2013 13:44 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: mingle > > ‘Cymysgu gyda’ fyswn i’n ddeud. Cymysgu rhywbeth â llaw ond cymysgu gyda phobl. > > Tegwen > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts > Sent: 14 February 2013 11:22 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: mingle > > "Dechrau cymysgu â'r gynulleidfa" te? > > Siân > On 2013 Chwef 14, at 11:09 AM, anna gruffydd wrote: > > > Wir-yr, taswn i'n gweld 'dechrau cymysgu' fel'na ar ei ben ei hun fasa gin 'm syniad be i'w ddisgwyl. > > Anna > > 2013/2/14 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > 'Dechrau cymysgu' > ----- Original Message ----- > From: anna gruffydd > To: [log in to unmask] > Sent: Thursday, February 14, 2013 10:59 AM > Subject: Re: mingle > > Hynny'n tycio i ddisgrifio'r 'peth', ac mae na frawddeg rywle arall yn y ddogfen sy'n manylu ynghylch be maen nhw'n ei neud. Ond mae na amserlen mewn tabl a dyna lle mae'r mingling ('Mingling commences') felly roedd arna i eisiau ffordd llaw-fer o fynegi'r mingling. > > Anna > > 2013/2/14 Neil Shadrach <[log in to unmask]> > Beth sy mor wael am rywbeth fel "Bydd cerddorion y BBC yn cymysgu â'r gynulleidfa gan gynnig y cyfle i ..." ? > Methu deall beth sy mor arbennig am ystyr y gair mingle > > > 2013/2/14 Catrin Alun <[log in to unmask]> > Ydy 'cYmdeithasu' yn rhy gryf tybed? > > Sent from my iPhone > > On 14 Feb 2013, at 09:53, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote: > > Oce, 'rhoi tro' yn dda i ddim - ond i mi mae'n golygu mynd i weld rhywun yn hytrach na'i lindagu!! > > Cytuno - cerdded ymysg yn iawn i ddosbarthu taflenni ond mae isio rhywbeth cryfach. > > Dwi'n meddwl mai dod i blith/ganol ydi'r cynigion gorau hyd yn hyn (am eu bod nhw'n gneud mwy na sgwrsio). Diolch eto. > > Anna > > 2013/2/14 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Mm - "rhoi tro am y gynulleidfa" yn swnio fel petaen nhw'n rhoi tro yng nghorn gwddw'r gynulleidfa neu'n eu dychryn! Ond efallai mai fi 'di hynny! > > Dydi "cerdded ymysg" ddim yn swnio fel petaen nhw'n siarad â'r gynulleidfa. > > Beth am "dod i sgwrsio â'r gynulleidfa" neu "dod i lawr i blith/ganol y gynulleidfa" ? > > Siân > > > > On 2013 Chwef 14, at 8:45 AM, Neil Shadrach wrote: > > > "Mae'r wers wedi dechrau ers deg munud ac ar ôl gwneud ei chyflwyniad mae'r athrawes yn cerdded ymysg y myfyrwyr gan ddosbarthu taflenni" > ( http://www.llaisdisgyblioncymru.org.uk/cymraeg/uwchradd/astudiaethau-achos/the-impact-of-the-14-19-learning-pathways-agenda-on-the-young-people-of-bridgend-case-study-1/ ) > > > 2013/2/14 anna gruffydd <[log in to unmask]> > Posibilrwydd darodd fy mhen i ar ol i mi anfon y neges neithiwr - y corddorion yn rhoi tro am y gynulleidfa...? Meddwl bod hynny'n swnio ella'n fwy bwriadus. Ta ydi o'n drychinebus? > > Anna > > 2013/2/13 Sian Jones <[log in to unmask]> > Bydd y cerddorion yn crwydro drwy'r gynulleidfa.... ? > > Dwn im ai hynny maen nhw'n olygu? > > Sian > > Date: Wed, 13 Feb 2013 21:46:52 +0100 > From: [log in to unmask] > Subject: mingle > To: [log in to unmask] > > Mae'r ferf yma wedi bod yn gur pen i mi droeon. Gair bach snec i gyfleu cymdeithasu anffurfiol - y disgrifiad ydi:- > > BBC musicians will be mingling with the audience offering the chance for children and adults to try out the musical instruments etc. > > Diolch am rywbeth bachog, byr a braf. > > Anna > > > > > > > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5602 - Release Date: 02/13/13 > > > > >