Arddulliadur Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2006: Wrth ddefnyddio’r lluosog rhowch y terfyniad lluosog ar ddiwedd yr acronym, ee ‘AALlau’ am ‘Awdurdodau Addysg Lleol’, nid ‘AauALl’. Cofion Siân On 2013 Chwef 14, at 3:47 PM, Dafydd wrote: > be mae rhywun yn ei wneud pan fo angen lluosi talfyriad yn y Gymraeg ...? > > e.e. > > Awdurdod Addysg Lleol ydi AALl .... > > Awdurdodau Addysg Lleol: - AauALl > neu - AALlau > neu - AALl heb ei newid? > > !!! > Diolch, > Dafydd