Print

Print


Dwn i ddim pam, rhyw chwilen yn fy mhen, dwi'm yn hoff iawn o 'cymysgu'.
Dim ond chwilen. Mi feddylia i am y peth dros ginio. Diolch eto.

Anna

2013/2/14 Sian Roberts <[log in to unmask]>

> "Dechrau cymysgu â'r gynulleidfa" te?
>
> Siân
> On 2013 Chwef 14, at 11:09 AM, anna gruffydd wrote:
>
> Wir-yr, taswn i'n gweld 'dechrau cymysgu' fel'na ar ei ben ei hun fasa gin
> 'm syniad be i'w ddisgwyl.
>
> Anna
>
> 2013/2/14 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
>
>> **
>> 'Dechrau cymysgu'
>>
>> ----- Original Message -----
>> *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]>
>> *To:* [log in to unmask]
>> *Sent:* Thursday, February 14, 2013 10:59 AM
>> *Subject:* Re: mingle
>>
>> Hynny'n tycio i ddisgrifio'r 'peth', ac mae na frawddeg rywle arall yn y
>> ddogfen sy'n manylu ynghylch be maen nhw'n ei neud. Ond mae na amserlen
>> mewn tabl a dyna lle mae'r mingling ('Mingling commences') felly roedd arna
>> i eisiau ffordd llaw-fer o fynegi'r mingling.
>>
>> Anna
>>
>> 2013/2/14 Neil Shadrach <[log in to unmask]>
>>
>>> Beth sy mor wael am rywbeth fel "Bydd cerddorion y BBC yn cymysgu â'r
>>> gynulleidfa gan gynnig y cyfle i ..." ?
>>> Methu deall beth sy mor arbennig am ystyr y gair mingle
>>>
>>>
>>> 2013/2/14 Catrin Alun <[log in to unmask]>
>>>
>>>>  Ydy 'cYmdeithasu' yn rhy gryf tybed?
>>>>
>>>> Sent from my iPhone
>>>>
>>>> On 14 Feb 2013, at 09:53, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
>>>>
>>>>  Oce, 'rhoi tro' yn dda i ddim - ond i mi mae'n golygu mynd i weld
>>>> rhywun yn hytrach na'i lindagu!!
>>>>
>>>> Cytuno - cerdded ymysg yn iawn i ddosbarthu taflenni ond mae isio
>>>> rhywbeth cryfach.
>>>>
>>>> Dwi'n meddwl mai dod i blith/ganol ydi'r cynigion gorau hyd yn hyn (am
>>>> eu bod nhw'n gneud mwy na sgwrsio). Diolch eto.
>>>>
>>>> Anna
>>>>
>>>> 2013/2/14 Sian Roberts <[log in to unmask]>
>>>>
>>>>> Mm - "rhoi tro am y gynulleidfa" yn swnio fel petaen nhw'n rhoi tro
>>>>> yng nghorn gwddw'r gynulleidfa neu'n eu dychryn!  Ond efallai mai fi 'di
>>>>> hynny!
>>>>>
>>>>> Dydi "cerdded ymysg" ddim yn swnio fel petaen nhw'n siarad â'r
>>>>> gynulleidfa.
>>>>>
>>>>> Beth am "dod i sgwrsio â'r gynulleidfa" neu "dod i lawr i blith/ganol
>>>>> y gynulleidfa" ?
>>>>>
>>>>> Siân
>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>>  On 2013 Chwef 14, at 8:45 AM, Neil Shadrach wrote:
>>>>>
>>>>>  "Mae'r wers wedi dechrau ers deg munud ac ar ôl gwneud ei
>>>>> chyflwyniad mae'r athrawes yn *cerdded ymysg y* myfyrwyr gan
>>>>> ddosbarthu taflenni"
>>>>> (
>>>>> http://www.llaisdisgyblioncymru.org.uk/cymraeg/uwchradd/astudiaethau-achos/the-impact-of-the-14-19-learning-pathways-agenda-on-the-young-people-of-bridgend-case-study-1/)
>>>>>
>>>>>
>>>>> 2013/2/14 anna gruffydd <[log in to unmask]>
>>>>>
>>>>>> Posibilrwydd darodd fy mhen i ar ol i mi anfon y neges neithiwr - y
>>>>>> corddorion yn rhoi tro am y gynulleidfa...? Meddwl bod hynny'n swnio ella'n
>>>>>> fwy bwriadus. Ta ydi o'n drychinebus?
>>>>>>
>>>>>> Anna
>>>>>>
>>>>>> 2013/2/13 Sian Jones <[log in to unmask]>
>>>>>>
>>>>>>>  Bydd y cerddorion yn crwydro drwy'r gynulleidfa.... ?
>>>>>>>
>>>>>>> Dwn im ai hynny maen nhw'n olygu?
>>>>>>>
>>>>>>> Sian
>>>>>>>
>>>>>>>  ------------------------------
>>>>>>> Date: Wed, 13 Feb 2013 21:46:52 +0100
>>>>>>> From: [log in to unmask]
>>>>>>> Subject: mingle
>>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>>>
>>>>>>> Mae'r ferf yma wedi bod yn gur pen i mi droeon. Gair bach snec i
>>>>>>> gyfleu cymdeithasu anffurfiol - y disgrifiad ydi:-
>>>>>>>
>>>>>>> BBC musicians will be mingling with the audience offering the chance
>>>>>>> for children and adults to try out the musical instruments etc.
>>>>>>>
>>>>>>> Diolch am rywbeth bachog, byr a braf.
>>>>>>>
>>>>>>> Anna
>>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>
>>>
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5602 - Release Date: 02/13/13
>>
>>
>
>