Dyma sylw Duncan: "Gan nad enw rhywogaeth yw hwn ond cyflwr sy'n dibynnu ar oedran y creadur, byddai cynnig Bruce ("fach") efallai fymryn yn gamarweiniol mewn ambell gyd-destyn." Felly "madfall ieuanc/ifanc degill pluog" amdani (gan gofio treiglo "tegill" gan fod "madfall" yn fenywaidd). Ann -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 08 February 2013 14:36 To: [log in to unmask] Subject: Re: feathery gilled newtlet Mae Bruce yn anfon y neges at Duncan Brown ar gyfer sylwadau. Cymerai mai rhywbeth fel "madfall fach degill pluog" ddylai fod. Ann -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Evans Jones Sent: 08 February 2013 04:34 To: [log in to unmask] Subject: feathery gilled newtlet Map yn dangos lle gellir canfod amrywiaeth o rywogaethau mewn gwarchodfa natur ydy'r cyd-destun. Dwi wedi llwyddo i ganfod y canlynol: The gills of the young Salamander might in appearance be compared to feathers or pinnated leaves; there are three on either side, each consisting of a main stem bearing two rows of simple leaflets; they are wholly external, projecting backwards and wards from the side of the neck. Dwi'n cymryd mai madfall ddwr ifanc ydy'r newtlet sydd dan sylw, a dwi'n cymryd hefyd nad enw rhywogaeth ydy 'feather gilled' ond disgrifiad o dagell y madfall ddwr ifanc. Tybed a allai rhywun sy'n arbenigo ym maes byd natur gynnig arweiniad?