Print

Print


Ddrwg gen i Neil ond dw i ddim yn hidio llawer am dôn eich e-bost chi! Efallai nad dyma eich bwriad ond mae’n dod drosodd yn gas ac yn ddilornus tu hwnt mewn ymateb i bwynt dilys gan Geraint.

 

Rhian

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Neil Shadrach
Sent: 03 January 2013 11:15
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ebyst

 

Y rhan fwyaf o'r amser mae 'neges'/'negeseuon' yn gweithio yn berffaith ac yn swnio'n fwy naturiol. Weithiau, ond nid yn aml, mae angen gwahaniaethu rhwng mathau gwahanol o negeseuon - amser 'ny bydda i'n dweud rhywbeth fel negeseuon ebost/SMS/Twitter/XMPP/MSN ayb. Mae'n dda cael rhywbeth sy'n goleddfu 'neges' ymhob achos yn hytrach na dweud 'ebyst/negeseuon SMS/..'.

 

Ond wedyn rwy wedi bod yn dweud 'ffôn' yn lle 'ffôn symudol' ers blynyddoedd - rhywbeth sy'n dod yn fwyfwy cyffredin y dyddiau 'ma. Ond os yw gwerin di-nam Geraint eisiau dweud 'mobeils' yn eu ffordd organig, naturiol, marchnad deg rhwydd hynt iddyn nhw. Efallai byddai 'symudols' yn apelio at rhai - yn dilyn patrwn 'ffarmwrs'?

 

2013/1/3 anna gruffydd <[log in to unmask]>

Jyst o ran myrrath, be fasat ti'n ddeud ta?

Anna

2013/1/3 Neil Shadrach <[log in to unmask]>

Cyfieithu slafaidd, diangen, diddychymig o'r Saesneg.

 

Ond wedyn defnyddiwr cyffredin di-addysg ydw i ac nid ieithgi o gyfieithydd  :)

 

2013/1/3 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

Hollol dderbyniol, da a dyfeisgar yn fy marn i.

 

Cyn ebost, doedd yna ddim gair lluosog am 'bost' (yn yr ystyr ohebol) nac am 'mail' yn Saesneg.

 

Aeth 'emails' Saesneg yn 'ebyst' yn Gymraeg - enghraifft wych o fathu organig heb i unrhyw bwyllgor o ieithgwn gwybodus roi eu pig i mewn.

 

Geraint

----- Original Message ----- 

From: Neil Shadrach <mailto:[log in to unmask]>  

To: [log in to unmask] 

Sent: Thursday, January 03, 2013 10:26 AM

Subject: Re: ebyst

 

Cytuno. Rwy'n ei glywed ar lafar o dro i dro ond fyddwn i ddim yn ei ddefnyddio.

 

2013/1/3 Catrin Beard <[log in to unmask]>

Dwi'n meddwl ei fod yn dibynnu ar y cyd-destun. Fyddwn i ddim yn ei
ddefnyddio mewn dogfen ffurfiol iawn, ond mewn rhywbeth anffurfiol gall fod
yn dderbyniol.
Mae'n well gen i 'negeseuon ebost' ar y cyfan.

C

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 03 January 2013 10:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ebyst

Wir?
Ro'n i'n meddwl ei fod wedi cychwyn fel jôc ond bod rhai pobl wedi dechrau
ei gymryd o ddifri mewn anwybodaeth.
Dal i swnio'n ddigri i mi!

Siân



On 2013 Ion 3, at 10:05 AM, Saunders, Tim wrote:

> Roedd e'n ddigon dderbyniol ddeng mlynedd yn ôl - dim rheswm i feddwl fod
hyn wedi newid.
>
> Yn iach,
>
> T
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 03 January 2013 10:03
> To: [log in to unmask]
> Subject: ebyst
>
> Helo
>
> Ydi "ebyst" yn dderbyniol bellach?
> Rwy'n darllen proflenni sy'n dweud "Byddwn yn anfon ebyst".  Mae'n dal i
'nharo i'n rhyfedd ond mae'n digwydd yng ngeiriadur arlein y BBC ac yn y
Porth Termau (Termau Cyfathrebu) ac mae iddo'r fantais o fod yn fyr!
>
> Diolch
>
> Siân
> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may
contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and
should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or
disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error
please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be
subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant
legislation
>
> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>
>
>
> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd
sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin
yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r
awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i
defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam
a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd
cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth
berthnasol.
> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2637/5505 - Release Date: 01/02/13