Print

Print


Anaml y clywch chi neb yn deud Port Dinorwic erbyn hyn - "single to 
Felinheli" glywch chi ar fws - byddai'r fannod yn taro'n od iawn yn y 
cyd-destun.

Erbyn meddwl byddai'n od yn Gymraeg hefyd dweud "dwi'n mynd i Y Felinheli". 
Mynd i'r Felinheli siwr iawn.* Dydi'r Y ddim yn rhan annatod o'r enw.

Byddai "I'm going to'r Felinheli" yn well na "I'm going to Y Felinheli" 
ella!  ;-)

Geraint

* (er mai "mynd i Felin" a "byw yn Felin" ydi'r ffurf glywir ar lafar yn 
naturiol)

----- Original Message ----- 
From: "Geraint Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 30, 2013 3:30 PM
Subject: Re: Y Felinheli - Saesneg


> Awgrymws Geraint Lovgreen:
>>  Yn naturiol, "to Felinheli" fyddai rhywun yn ei ddweud mae'n siwr.
>
> Dwn i ddim: nid Port Dinorwic fyddai debycaf ar lafar yn Saesneg, dal
> i fod?  (Peth peryg yw drysu rhwng arfer a rheol.)
>
> O ran cywreinrwydd mi edrychais yn llawlyfr Saesneg(*) Cyngor Cymuned
> y Felinheli (neu "Cyngor Cymuned Y Felinheli Community Council" fel
> mae'n mynnu) ac yn fanno mae engreifftiau fel "If the County
> Councillor for Y Felinheli is not a..." gyda'r fannod yn Gymraeg.
>
> _____
> *)  http://www.felinheli.org/downloads/pdfs/hand_book_eng.pdf
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2639/5567 - Release Date: 01/29/13
>