Print

Print


Byddwn i'n amau mai rhywbeth fel hyn oedd bwriad y cyfieithydd, a'i fod wedi
hepgor gair yn ddamweiniol.
Ann
 
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 26 December 2012 15:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Viewer

Byddai, debyg. O leia mae'n cyfleu'r ystyr yn gywir. Neu beth am 'teclyn
dangos/gweld mapiau'?
Mary

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 26 December 2012 15:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Viewer

Rhywun arall wrth ei ddesg?

Darllen proflenni ac mae'r cyfieithydd wedi defnyddio "teclyn mapiau" am
"map viewer".
I mi, mae hyn yn awgrymu'ch bod yn galllu gwneud mwy na dim ond gweld y
mapiau ond mae'n swnio'n fwy naturiol na'r rhan fwyaf o'r cynigion a gafwyd
yma o'r blaen.

Awgrymwyd "gwyliwr", "edrychydd", "gweliadur" a "gweledydd" mewn trafodaeth
o'r blaen ond mae hynny'n swnio fel pe bai'r teclyn yn gwylio/edrych yn
hytrach na'i fod yn caniatau i chi wneud hynny. (Ac mae "gwylio" yn awgrymu
bod rhywbeth yn digwydd yn hytrach na'ch bod yn edrych ar lun llonydd).

Holodd M. Paul Bryant-Quinn yn y drafodaeth yn 2000 "onid *dangos* y mae'r
peiriant?"

Fyddai "dangoswr" yn iawn felly?

Diolch

Siān