O dro i dro mae Bruce a finnau wedi trafod
rhoi enw ar y ty, yn ogsytal a rhif, a ‘dw i’n ffafrio “Geirfan”,
ond nid yw Bruce yn fodlon.
Ann
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of anna gruffydd
Sent: 01 December 2012 17:43
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: colony
Ia, ond os dio'n air
gneud da - er na dwyt ti a Sian ddim yn ei lecio fo...ella'i fod yn taro
deuddeg i rywun. Fath ag oedfan = venue - roedd angen gair, cafodd y gair sel
bendith Bruce. Er gwaetha hynny dwi di gweld athrawon (sydd prin yn medru
sgwennu'r Gymraeg yn ramadegol nac yn ddealladwy) yn cwyno am y gair mewn
ymatebion i amryw bethau
Anna
2012/12/1 megan tomos <[log in to unmask]>
Dwi'n cytuno, Sian. Gair gwneud ydi o.
Megan
From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, 30 November 2012,
19:13
Subject: Re: colony
Ti'n gwbod be? Dwi'n anghytuno'n llwyr.
Gynne o'n i'n meddwl am y peth. Dwi'n gweld "cytref" yn
hen air caled sy ddim yn golygu dim byd i mi!
Hollol wahanol i "cynefin".
Digri, de?!
Hwyl!
Siān
On 2012 Tach 30, at 7:10 PM, anna gruffydd wrote:
Gair braf ydi cytref, te,
fath a chynefin. Heb ddwyn unrhyw berthynas a safonau iaith, braf bod na eiria
braf i ddisgrifio lle mae anifeiliaid yn byw, mae'n rhyw fath o arwydd
(gobeithio) o'n parch dyledus ni iddyn nhw, dwi'n meddwl.
Anna
2012/11/30 megan tomos <[log in to unmask]>
Mae CBAC yn hoff iawn o cytref! Cytref sydd yn Cysgeir hefyd.
Megan
From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, 30 November 2012,
11:56
Subject: Re: colony
'Cytref' sy'n arferol yng nghyd-destun pethau byw - yn gytras, mae'n debyg, ā'r
gair Cernyweg 'Kentrev', sev 'cymdogaeth'.
Yn iach,
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]
On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 30 November 2012 11:54
To: [log in to unmask]
Subject: Re: colony
Claire wedi codi hyn yn 2006 ond heb gael ateb
Beth yw "colony" o ystlumod?
"Llwyth" neu "tylwyth" o epaod ac afancod etc yn ōl GyrA.
Ystlumod hefyd?
Diolch
Siān
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain
sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be
handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to
receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to
anyone else. If you have received this transmission in error please notify the
sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording
and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd
sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn
unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r
awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i
defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a
wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi
a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad