Y trafferth ydi fy mod i'n ei 'glywed' fel enw tebyg i 'Meirionnydd, Eifionydd' - sef yr enw "Elain" a'r terfyniad "-ydd" ac felly mae "Yr Elenydd" yn swnio'n chwithig imi, gan ei fod yn awgrymu mai terfyniad lluosog sydd yna. (Yr Elenydd sydd gan Wicipedia hefyd, gyda llaw, heblaw am y pennawd) ----- Original Message ----- From: David Bullock To: [log in to unmask] Sent: Monday, December 03, 2012 9:54 AM Subject: Re: Cambrian Mountains, Elenydd "Elenydd, Yr" sydd yn y Gwyddoniadur. (Efallai mod i'n hen-ffasiwn, ond mae'n well gen i drystio'r Gwyddoniadur, sydd ag enwa'r golygyddion a'r cyfranwyr arno na'r Wicipedia ddienw.) From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 03 Rhagfyr 2012 09:38 To: [log in to unmask] Subject: Cambrian Mountains, Elenydd Newydd ddarganfod yn Wicipedia bod modd cyfieithu rhan helaeth o'r Cambrian Mountains fel Elenydd yn hytrach na'r Mynyddoedd Cambriaidd neu ba bynnag enw termllyd arall a ddefnyddiais gynt. Y cwestiwn sydd gen i ydi - ai Elenydd ydi enw'r ucheldir yma, ynteu Yr Elenydd?? Mae sawl enghraifft o'r ddwy ffurf ar y we. Diolch, Geraint No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2634/5433 - Release Date: 12/02/12