Print

Print


newydd gwglo - mae na frand o win o'r enw stony wine - tybed ai hwnnw dio? os felly does dim angen cyfieithu siawns gan mai dyna'r brand - roeddwn i'n meddwl bod gwin blas cerrig, fel deudais i yn y neges o'r blaen. braidd yn annhebygol!

Anna

2012/6/27 anna gruffydd <[log in to unmask]>
Sori, dim awgrym, ond dydi gwin ac arno flas carreg na fflint yn codi fawr o archwaeth arna i!

Anna


2012/6/27 Gareth Evans Jones <[log in to unmask]>

Disgrifiadau o winoedd ydy'r cyd-destun. Dwi wedi dod ar draws un cyfieithiad o 'stony' fel 'blas fflint', o restr win Bwyty'r Beuno. Fel un sydd â fawr o brofiad o win, does gen i ddim syniad beth ydy 'stony' na 'blas fflint'! A yw 'blas fflint' yn briodol ar gyfer 'stony', neu a oes gan unrhyw un well awgrym, os gwelwch yn dda?