Yn bersonol, mae bolgi'n golygu rhywun sy'n farus ac yn bwyta'n ddi-stop ac mae foodie yn golygu rhywun sy'n frwdfrydig ynghylch bwyd. Ond efallai fy mod i'n anghywir!! Melanie -----Original Message----- From: Wyn Hobson Sent: Tuesday, May 01, 2012 1:25 PM To: [log in to unmask] Subject: food snobs? Parthed 'foodies', meddai Anna: > Crachfolgwn? Pe bawn i wedi clywed y term hwn wrth gyfieithu ar y pryd (ac wedi deall y cyd-destun yn ddigon buan), mae'n debyg mai'r cyfieithiad y buaswn i wedi ei lefaru — o dan bwysau'r foment — fuasai 'food snobs'. Tybed a fuasai 'crachfolgwn' yn gyfieithiad derbyniol ar gyfer y term hwnnw? Buasai'n biti gorfod rhoi bathiad mor rywiog o'r neilltu! Hwyl, Wyn