Print

Print


Mea culpa Ann! Ddaru o ddim taro mhen i.

Anna

2012/5/11 Ann Corkett <[log in to unmask]>

> Cytuno.  Mae 'na dwtsiad yma o ystyr arall "champion", rhywun sy'n
> arwain/hyrwyddo/cynrychioli/eirioli dros bobl eraill, nid rhywun sydd wedi
> ennill a churo pawb arall.  Byddai'n dda rhoi stop ar gam-ddefnydd
> "pencampwr" ar gyfer y rheina.  Ond mae'r ddau ystyr yma - pobl arbennig
> sy'n sefyll allan, ond sy'n gwneud hynny oherwydd eu gwaith dros eraill.
> Mae "arwr" yn medru cyfuno'r ddau syniad - a dydy o ddim yn swnio'n rhy od
> efo "diewmwnt" chwaith (biti mae'r jiwbili diemwnt ydyw - byddai "arwyr
> aur"
> wedi bod yn well byth).
>
> Rhaid iti, Anna, roi'r gorau i ganmol pethau trwy ddweud "Champion" - mae'n
> ei gwneud hi'n anodd chwilio'r archif!!
>
> Ann
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia
> Prys
> Sent: 11 May 2012 09:19
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: champion
>
> Sian Roberts wrote:
> > Mae elusen Brydeinig yn dathlu jiwbilî'r Frenhines trwy anrhydeddu pobl
> > hyn sy'n gwirfoddoli yn eu cymunedau.
> > Yn Saesneg, yr enw yw "Diamond Champions".
> > Mae "Pencampwyr Diemwnt" yn fy nharo i'n rhyfedd yn y cyd-destun hwn.
> > Rhyw elfen o grefft / cystadleuaeth ynddo.
> > Oes gair gwell? Arwyr Diemwnt?  Sêr Diemwnt? Dydi "Cymwynaswyr Diemwnt"
> > ddim yn rhoi'r un statws iddyn nhw.
> >
> > Diolch
> >
> > Siân
> Dw i'n cofio rhywbeth tebyg  rai blynyddoedd yn ol - unsung heroes - am
> bobl oedd yn gwneud gwaith yn eu cymunedau -  arwyr tawel a
> ddefnyddiwyd, os ydw i'n cofio'n iawn. Byddwn i'n meddwl bod arwyr yn
> addas iawn yn y cyd-destun.
>
> --
> Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>
>
> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
> Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Bangor/Bangor University
> --
> Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565
>
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
> unwaith a dilwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
> rhaid i chi beidio  defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
> hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
> Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
> bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
> 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
> nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
> rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
> Cyllid Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately
> and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you
> must not use, retain or disclose any information contained in this
> email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do
> not necessarily represent those of Bangor University.
> Bangor University does not guarantee that this email or
> any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless
> expressly stated in the body of the text of the email, this email is
> not intended to form a binding contract - a list of authorised
> signatories is available from the Bangor University Finance
> Office.  www.bangor.ac.uk
>