Print

Print


Dwi'n eitha hoffi 'clyw-foddoli' neu 'glust-foddoli', hyd yn oed, os
am gyfieithu'r gair 'ear'.  Mae'r ystyr 'bod yn barod i gynnig eich
clust neu eich clyw' neu 'bod yn ewyllysgar gyda'ch clust neu'ch clyw'
yn dod trwodd.  Ac mae'n well na'r Saesneg hefyd.

Mae 'Troi'n glust i'r byddar' yn ddigon slic hefyd os oes lle ar y daflen.

Eluned

2012/5/17 Manon Humphreys <[log in to unmask]>:
> Bore da Rhian,
>
> Anodd! Ydy 'clyw-foddoli' yn rhy od?
>
> Gwrando o'ch gwirfodd
> Gair yn eich clust
> Cynnig clust
> Gwir-wrando
>
> Ddim yn siwr pa mor addas/derbyniol yw'r rhain... ond os yw'n daflen fydd yn cael ei dylunio, tybed a oes modd defnyddio llun neu ddelwedd sy'n gweithio yn y ddwy iaith?