Neu ‘neilltuo tocyn i Wil’ – er nad yw’r tocyn yn neilltuol, ei neilltuo fyddwch chi wrth ei gadw i un person...
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Alison Reed
Sent: 22 Mawrth 2012 10:54
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ar wahân
Beth am newid y drefn, e.e. cadw tocyn i Wil ar wahân??
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 22 March 2012 10:43
To: [log in to unmask]
Subject: ar wahân
Helo,
Dwi wastad yn cael trafferth efo "ar wahân" yn yr ystyr separate (h.y. fel ansoddair)
Os ydw i'n deud fy mod i'n cadw tocyn ar wahân i Wil, mae hynny i fi yn darllen fel "a ticket apart from Wil" neu "other than Wil" (dydi hwn ddim yn enghraifft arbennig o dda, ond...)
Dwi isio deud "tocyn ar-wahân i Wil" efo cysylltnod, i ddangos mai ansoddair ydi'r "ar wahân" yma ac nid ymadrodd. Oes yna rywbeth o'i le ar roi "ar-wahân" yn y cyswllt yma? Mae ynganiad y ddau yn sicr yn wahanol.
Mi fedrwn ddeud "tocyn gwahanol", ond dydi'r tocyn ddim yn wahanol i'r lleill, neu "neilltuol", ond does dim byd neilltuol amdano!
Help!
Geraint