Print

Print


Do, fi! Fe wnaeth e gadarnhau fy mhenderfyniad i ddefnyddio "chwilota".

Mae un wefan yn dweud "Root reflex - also known as the search reflex"

Diolch

Siân

On 25 Tach 2011, at 12:25, Ann Corkett wrote:

Ydy rhywun wedi meddwl edrych yn GyrA am gynigion ar gyfer y ferf “root”?!

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 25 November 2011 12:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: reflex a root

 

'tyrchu' neu 'turio' mae moch yn wneud ynde?

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">CATRIN ALUN

Sent: Friday, November 25, 2011 12:12 PM

Subject: Re: reflex a root

 

Dim son yn anffodus!

 


From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, 25 November 2011, 12:09
Subject: Re: reflex a root

Diolch eto!

 

Swn i'n meddwl eu bod nhw'n ddwy reddf wahanol - y chwilota (hyd yn oed yng nghôl rhywun dierth), a'r sugno.

Mae amryw o wefannau'n sôn am y ddwy.

 

Ydi Bailliere yn sôn am y "stepping reflex"? "atgyrch camu"?

 

 

Diolch!

 

Siân

 

On 25 Tach 2011, at 11:57, CATRIN ALUN wrote:



Yn ol disgrifiad Bailliere, mae'r ddau'r un peth! Ond siwr nad ydyn nhw. 

Tybed fyddai defnyddio 'gwreiddio' am 'root reflex' a 'sugno' am 'suck' yn gweithio - dyna mae'r babi'n ei wneud - gwreiddio ei hun ar y fam?

 

Dydy'r geiriadur ddim yn cynnwys 'suck reflex'! (dim son am 'suck' o gwbl ynddo!)

 

Catrin

 


From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, 25 November 2011, 11:52
Subject: Re: reflex a root

Diolch Catrin

 

Mae'r darn sy gen i yn sôn am "root reflex" a "suck reflex".

 

Cofion

 

Siân

 

 

 

On 25 Tach 2011, at 11:37, CATRIN ALUN wrote:



Mae argraffiad Cymraeg Geiriadur Bydwragedd Bailliere yn cynnig 'atgyrch sugno' - a'r diffiniad yw 'atgyrch y gellir ei ysgogi yn y baban newydd-anedig drwy anwesu ei foch neu ochr ei geg. Bydd y baban yn ymateb trwy droi at yr ochr a anweswyd ac yn agor ei geg yn barod i sugno'.

 

Catrin

 


From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, 25 November 2011, 10:33
Subject: reflex a root

Sôn am fabanod:

"They are born with several reflexes. These include rooting, sucking ..."

Dyma sy'n digwydd:
Root reflex - This reflex begins when the corner of the baby's mouth is stroked or touched. The baby will turn his/her head and open his/her mouth to follow and "root" in the direction of the stroking. This helps the baby find the breast or bottle to begin feeding.

1) Sut mae defnyddio'r gair "atgyrch"?  Mae'n ymddangos fel enw yn y geiriaduron ond mae "Cânt eu geni â sawl atgyrch" yn swnio'n chwithig. Mae'n swnio mwy fel ansoddair ac mae "gweithred atgyrch", "llwybr atgyrch" etc yn digwydd yn y Porth Termau.

2) rooting - Rhywbeth fel "chwilota am deth"?

Diolch

Siân