Print

Print


Do, fi! Fe wnaeth e gadarnhau fy mhenderfyniad i ddefnyddio "chwilota".

Mae un wefan yn dweud "Root reflex - also known as the search reflex"

Diolch

Siân

On 25 Tach 2011, at 12:25, Ann Corkett wrote:

> Ydy rhywun wedi meddwl edrych yn GyrA am gynigion ar gyfer y ferf  
> “root”?!
>
> Ann
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf  
> Of Geraint Lovgreen
> Sent: 25 November 2011 12:20
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: reflex a root
>
> 'tyrchu' neu 'turio' mae moch yn wneud ynde?
> ----- Original Message -----
> From: CATRIN ALUN
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, November 25, 2011 12:12 PM
> Subject: Re: reflex a root
>
> Dim son yn anffodus!
>
> From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, 25 November 2011, 12:09
> Subject: Re: reflex a root
>
> Diolch eto!
>
> Swn i'n meddwl eu bod nhw'n ddwy reddf wahanol - y chwilota (hyd yn  
> oed yng nghôl rhywun dierth), a'r sugno.
> Mae amryw o wefannau'n sôn am y ddwy.
>
> Ydi Bailliere yn sôn am y "stepping reflex"? "atgyrch camu"?
>
>
> Diolch!
>
> Siân
>
> On 25 Tach 2011, at 11:57, CATRIN ALUN wrote:
>
>
> Yn ol disgrifiad Bailliere, mae'r ddau'r un peth! Ond siwr nad ydyn  
> nhw.
> Tybed fyddai defnyddio 'gwreiddio' am 'root reflex' a 'sugno' am  
> 'suck' yn gweithio - dyna mae'r babi'n ei wneud - gwreiddio ei hun  
> ar y fam?
>
> Dydy'r geiriadur ddim yn cynnwys 'suck reflex'! (dim son am 'suck'  
> o gwbl ynddo!)
>
> Catrin
>
> From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, 25 November 2011, 11:52
> Subject: Re: reflex a root
>
> Diolch Catrin
>
> Mae'r darn sy gen i yn sôn am "root reflex" a "suck reflex".
>
> Cofion
>
> Siân
>
>
>
> On 25 Tach 2011, at 11:37, CATRIN ALUN wrote:
>
>
> Mae argraffiad Cymraeg Geiriadur Bydwragedd Bailliere yn cynnig  
> 'atgyrch sugno' - a'r diffiniad yw 'atgyrch y gellir ei ysgogi yn y  
> baban newydd-anedig drwy anwesu ei foch neu ochr ei geg. Bydd y  
> baban yn ymateb trwy droi at yr ochr a anweswyd ac yn agor ei geg  
> yn barod i sugno'.
>
> Catrin
>
> From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, 25 November 2011, 10:33
> Subject: reflex a root
>
> Sôn am fabanod:
>
> "They are born with several reflexes. These include rooting,  
> sucking ..."
>
> Dyma sy'n digwydd:
> Root reflex - This reflex begins when the corner of the baby's  
> mouth is stroked or touched. The baby will turn his/her head and  
> open his/her mouth to follow and "root" in the direction of the  
> stroking. This helps the baby find the breast or bottle to begin  
> feeding.
>
> 1) Sut mae defnyddio'r gair "atgyrch"?  Mae'n ymddangos fel enw yn  
> y geiriaduron ond mae "Cânt eu geni â sawl atgyrch" yn swnio'n  
> chwithig. Mae'n swnio mwy fel ansoddair ac mae "gweithred atgyrch",  
> "llwybr atgyrch" etc yn digwydd yn y Porth Termau.
>
> 2) rooting - Rhywbeth fel "chwilota am deth"?
>
> Diolch
>
> Siân
>
>
>
>
>
>
>
>