Byddai Mam yn darllen dail te. Dim ond pump ar hugain, Sian? Wel! Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 06 October 2011 10:30 To: [log in to unmask] Subject: Re: Something's brewing Dwi'n gwybod am y dail te - dwi'm cweit mor ifanc â hynny - er bod "pump ar hugain oed" yn ymddangos yn eithriadol o hen i fi slawer dydd! Jest ddim yn siwr sut roedd "rhywbeth yn y dail" yn cyfleu ystyr paratoi at de parti. Swnio braidd yn amheus! Er, mae rhywbeth cryptig yn gweithio weithiau! Siân On 6 Hyd 2011, at 10:17, Geraint Lovgreen wrote: dail te! Neu hwyrach mai fi sy'n hen a bod y genhedlaeth iau ddim yn sylweddoli mai dail sydd y tu mewn i'r bagiau bach 'na. :-/ ----- Original Message ----- From: Sian <mailto:[log in to unmask]> Roberts To: [log in to unmask] Sent: Thursday, October 06, 2011 9:01 AM Subject: Re: Something's brewing Rhaid i fi gyfadde, dwi ddim cweit yn deall arwyddocad cynnig Geraint. (Gwenoglun cochi!) Os mai canllawiau i bobl sy'n trefnu te parti i godi arian yw'r rhain, mae Something's Brewing yn cyfleu'r ystyr bod y cynlluniau yn aeddfedu ac yn dod yn barod, ie? Fyddai modd gwneud rhywbeth â "bwrw ffrwyth"? Neu ei gadw'n symlach - Paratoi te Hwylio te Paned amdani! Paratoi parti Beth am baned? etc Falle mai "Beth am baned?" sy'n taro orau Siân On 6 Hyd 2011, at 07:41, Rhian Huws wrote: Diolch yn fawr iawn bawb. Erbyn gweld, canllawiau i bobl sy’n bwriadu cynnal te parti yw’r rhain, nid i’r bobl sy’n bwriadu mynd. Dwi’n lecio cynnig Geraint yn fawr ond jest poeni ydio chydig yn rhy ‘subtle’? Fyddai pobl yn deall beth sydd dan sylw da chi’n meddwl? Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 05 October 2011 18:00 To: [log in to unmask] Subject: Re: Something's brewing Rhywbeth yn y dail ----- Original Message ----- From: Ann <mailto:[log in to unmask]> Corkett To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, October 05, 2011 5:15 PM Subject: Re: Something's brewing Mae’n ddrwg gen i, Rhian. Wn i ddim a ydy hyn yn naturiol yn Gymraeg, ond ‘roeddwn i’n meddwl am chwarae ar rywbeth fel yr ymadrodd Saesneg, “What wouldn’t I give for a cup of tea? Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 05 October 2011 16:56 To: [log in to unmask] Subject: Re: Something's brewing Sori Ann – dwi ddim yn deal y cwestiwn? From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 05 October 2011 16:50 To: [log in to unmask] Subject: Re: Something's brewing Be’ fuasech chi’n/fauset ti’n [ei] roi am ‘baned? _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 05 October 2011 16:33 To: [log in to unmask] Subject: Re: Something's brewing Diolch Nia. ‘Beth am baned?’ yw’r cynnig arall hyd yma! Cofion Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Roberts, Nia Sent: 05 October 2011 16:30 To: [log in to unmask] Subject: Re: Something's brewing Barod am baned!? _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 05 October 2011 16:25 To: [log in to unmask] Subject: Something's brewing Helo eto Tybed oes gan rywun ysbrydoliaeth? Taflen ynghylch codi arian drwy gynnal te parti sydd dan sylw a dyma’r pennawd! Mae’r awen yn pylu mae arna’i ofn! Diolch ymlaen llaw am bob cymorth Rhian ****************************************************************** This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask] All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol *******************************************************************