Print

Print


Mae’r botwm glas G sy’n rhan o’r pecyn Cysgliad yn handi hefyd. Fedrwch chi amlygu’r gair, pwyso’r G a dewis ‘rhedeg berf’.

 

Judith

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sioned Graham-Cameron
Anfonwyd/Sent: 24 October 2011 14:52
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: dewiswyd / dewisiwyd: Y Llyfr Berfau

 

Diolch am hynna, Ann - gwybodaeth ddefnyddiol iawn. Mae Peter Wynn Thomas gen i (er nad ydw i bob amser yn hollol siwr lle i edrych ynddo fo!)

 

Sioned

 

 

On 24 Oct 2011, at 14:49, Ann Corkett wrote:



Os edrychwch ar wefan Gwales (y Cyngor Llyfrau) mae ar gael yn newydd am £8.99

 

Mae gen i gopi sbar, ond gwell gen i ei gadw i ddangos i ddysgwyr.  Hefyd, mae gen i drefniant lle gallaf anfon at yr holl werthwyr llyfrau daeth i’r Ffair ym mis Medi er mwyn canfon llyfrau mae ar bobl eu heisiau.  Gyda llaw, mi ofynodd un cyfieithydd imi wneud hyn yn achos Gramadeg Peter Wynn Thomas, ac mi ges i ddau gynnig, felly mi wn lle mae un sbar ar gael os oes eisiau un.

 

Ann Corkett

5 Heol Belmont

BANGOR

Gwynedd

LL57 2HS

 

(01248) 371987

[log in to unmask]

 

<image001.jpg>


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 24 October 2011 14:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: dewiswyd / dewisiwyd

 

Rargian fawr!!!! £7.95 oedd f'un i - dim ond cyfrol clawr papur hanner modfedd o drwch ydi hi, nid llawysgrif orueredig gan fynaich Ystrad Fflur yn yr Oesoedd Canol!!!

Anna

2011/10/24 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>

Diolch Anna - mi ffoniai'r siop lyfrau yn y Blaenau i weld os yw ar gael. (Newydd edrych ar Amazon ac mae copi ail law i'w gael am £109.92 - felly gofalwch am eich copi chi!)

 

Sioned

 

 

On 24 Oct 2011, at 14:10, anna gruffydd wrote:

 

Mae Llyfr Berfau D. Geraint Lewis yn handi dros ben - mi fydda i'n gorfod sbio arno fo'n amlach nag y carwn gyfadde. Ac mae'n ddifyr gweld berfau sydd mor anhylaw fel bod rhywun yn meddwl tybed os na rywun erioed wedi'u deud nhw - chwyddheych er enghraifft!

Anna

2011/10/24 Sian Roberts <[log in to unmask]>

Dewiswyd. Dewis + wyd. Cario + wyd = cariwyd
Sent from my BlackBerry® wireless device

-----Original Message-----
From:         Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
Sender:       Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date:         Mon, 24 Oct 2011 13:57:23
To: <[log in to unmask]>
Reply-To:     Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary              <[log in to unmask]>
Subject: dewiswyd / dewisiwyd


Help! Dwi'n mynd yn wirion yn ceisio penderfynu pa un sy'n gywir (teimlo'n fwy twp nag arfer heddiw)

Diolch!

Sioned

 

 

 

 



__________ Information from ESET NOD32 Antivirus, version of virus signature database 6571 (20111024) __________

The message was checked by ESET NOD32 Antivirus.

http://www.eset.com