Print

Print


Mae’n debyg mai’n uniongyrchol o’r Ffrangeg y daw’r ymadrodd ‘siambr sori’; gyda’r traddodiad ‘idiomatig’ o’r fenyw ar y naill law yn encilio i’w hystafell wely (‘boudoir’), tra bo’r dyn ar y llaw arall yn encilio ymaith allan o’r tŷ i’r sied yn yr ardd gefn (i’w ‘potting shed’ yn ôl yr un ymadrodd yn yr iaith Saesneg).  Yr hyn a olygir yw rhywle i fynd (D.S. o’ch gwirfodd) i deimlo’n ’sori’ drosoch chi eich hunan!   Dydy’r peth ddim cweit yn union yr un fath â chael eich gyrru (yn groes i’ch ewyllys) i’ch cawell neu eich daeargell; cael eich hanfon i’r ‘sin bin’ neu’ch ‘dungeon’, - yn rhannol fel cosb ac yn rhannol i’r perwyl o ddechrau’r broses o ddadwneud ryw ddrwgweithred y’ch cyhuddir chi ohoni.

 

Hwyrach hefyd fod rhai o’r cyfryw ymadroddion uchod yn perthyn fwy i fyd oedolion na phlant; ac y dylid cyfeirio ein meddyliau creadigol yn yr achos dan sylw at y cysyniad, nid yn gymaint ag i gael gwared o hunan-dostur allan o’n sustem ni (nac ychwaith i dderbyn cosb, o bosib), ond rhywle i encilio iddo (i’ch symud chi allan o’r sefyllfa lle caed trafferth ynddi hi) er mwyn manteisio ar amser tawel a llonyddwch i fyfyrio ar beth aeth o’i le mewn sefyllfa chwithig, ar sut i unioni neu gywiro’r camwedd a ddigwyddodd, ar sut i wneud yn iawn am ryw drosedd y bu’r dioddefydd yn gyfrifol amdani, ac i feddwl yn ddifrifol ar sut i ddod allan o’ch cyfyng-gyngor.  I ystyried edifarhau, erfyn am faddeuant, ac ymddwyn fel eich bod chi’n wironeddol ‘sori’ am yr hyn a ddigwyddodd; gydag addewid efallai na fyddwch yn ail-ymddwyn yn yr un modd byth eto!

 

Mae dwy elfen hanfodol felly i’r achlysur dan sylw, sy’n cael eu cywir gynnwys yn yr ymadrodd Saseneg, sef ‘time’ (amser a llonyddwch i feddwl a myfyrio) ac ‘out’ (cael eich tynnu allan a’ch symud ymaith o’r sefyllfa a’r amgylchedd lle aeth pethau allan o reaolaeth).  Felly, nid cyfieithu cwbl slafaidd fyddai dilyn yr un trywydd wrth fathu ymadrodd cyfystyr yn y Gymraeg; er y dylid anelu at fod yn greadigol wahanol i’r Saesneg, wrth gwrs, - ac nid jest bachu rhywbeth amlwg, fel ‘amser allan’, er enghraifft.  Ond does gen i ddim cynnig arall-ddewisol parod, ar hyn o bryd.

 

Eurwyn.     

  _____  

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 04 February 2011 14:07
To: [log in to unmask]
Subject: Re: time out

 

Wn i ddim a yw hyn o unrhyw iws.

 

Pan fyddai chwaer fach Bruce wedi cael dweud y drefn wrthi, neu’n teimlo ei bod hi wedi cael cam, byddai’n mynd i gornel yr ystafell a sefyll yn wynebu’r gornel, a byddai ei mam yn dweud ei bod hi “wedi mynd i’r siambr sori” (h.y. “sori” yn yr ystyr “pwdu”, nid am fod hi’n edifarhau). Mae’n debyg mae dyna oedd yr ymadrodd am ba le bynnag y byddai plentyn yn mynd i bwdu.  Dywed Bruce mai dyna oedd ystyr gwreiddiol “boudoir” hefyd – yr ystafell y byddech chi’n mynd iddi pan ‘roeddech chi wedi cael llond bol ar y byd.

 

Ann

  _____  

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones
Sent: 04 February 2011 11:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: time out

 

Defnyddiol iawn, diolch!

----- Original Message ----- 

From: Translation Unit <mailto:[log in to unmask]>  

To: [log in to unmask] 

Sent: Friday, February 04, 2011 6:57 PM

Subject: ATB: time out

 

Rydym wedi defnyddio Ystafell Ymdawelu am Time-out Room yn y gorffennol 

 

Llyr

 

 


  _____  


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gareth Jones
Anfonwyd/Sent: 04 February 2011 10:47
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: time out

 

Cwrs datblygu sgiliau magu plant ydy'r cyd-destun y tro hwn. Gofynnir i'r myfyrwyr drafod addasrwydd gwahanol ddulliau o ymateb i gamymddygiad, e.e. ffraeo, anwybyddu, taro. Gallai 'time out' olygu anfon y plentyn i'w ystafell wely am ychydig, ond mae dulliau eraill hefyd. Er enghraifft, ar y rhaglen Supernanny, dull o'r enw 'naughty step'. Dyma ddyfyniad o wefan www.supernanny.co.uk:

 

If you’re exasperated by your child’s behaviour, set out some clear house rules and try putting them into force using the Naughty Step Technique. This is one way of giving her time out, giving everyone a chance to calm down and allowing your child a moment to think over what was wrong with what she did. The idea of a particular spot, like the Naughty Step, where a child is put for time out is that it should be in a calm place with no distractions. This gives her time to think about what has happened without parents or brothers and sisters bothering her. 

 

Mae'r ail frawddeg yn cynnig diffiniad o 'time out' hyd ag y gwela i. Fyddai 'amser i bwyllo a meddwl' yn addas? Fedrai ddim meddwl am ddim byd bachog.

 

 

 

 

  _____  

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1204 / Virus Database: 1435/3422 - Release Date: 02/04/11