Print

Print


Dwi jest yn meddwl y byddai dy gynnig gwreiddiol di'n iawn. "Dim  
ysmygu yn y drws".

"Welais i Robin bore 'ma. Roedd e yn y drws wrth i mi basio."

Weithiau, mae rhywun yn gallu meddwl gormod!

Siân

On 6 Rhag 2010, at 15:27, Claire Richards wrote:

> Yn ôl y cyfarwyddiadau sy’n cyd-fynd â’r arwyddion, bydd  
> rhai’n cael eu gosod ar wal allanol yr adeilad, felly byddai  
> ‘yma’ ar y llwybr/pafin/maes parcio y tu allan iddo, h.y. yw yn  
> yr awyr agored lle nad yw ysmygu wedi’i wahardd. Bydd eraill yn  
> cael eu gosod ar y drws, ac os cânt eu gosod y tu mewn iddo,  
> byddai ‘yma’ y tu mewn i’r adeilad, lle mae ysmygu wedi’i  
> wahardd beth bynnag.
>
> Claire
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf  
> OfCarolyn
> Sent: 06 December 2010 15:19
> To: [log in to unmask]
> Subject: ATB: doorway
>
> Tybed fyddai 'yma' yn gwneud y tro os mai yn y fan honno y bydd yr  
> arwydd?
>
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology  
> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran  
> Post
> Anfonwyd/Sent: 06 Rhagfyr 2010 15:17
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: doorway
>
> At ei gilydd dwi’n credu ei fod yn golygu y tu allan i’r drws  
> ond o dan gysgod yr adeilad, lle mae’r drws wedi’i osod i mewn  
> ychydig o wyneb allanol y wal, neu yn ffrâm y drws gyda’r drws ar  
> agor.
>
> Claire
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf  
> OfAnn Corkett
> Sent: 06 December 2010 15:07
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: doorway
>
> GyrA:  “in the doorway” = yn y drws, ar ben y drws. Ystyr  
> gwreiddiol “drws”, meddai Bruce, oedd “twll” yn hytrach na  
> pheth pren oedd yn cau’r twll, felly mae “yn y drws” yn hollol  
> gywir.  Ond mae o’n yn gofyn a fyddai “wrth y drws” yn iawn.
>
> Byddwn i’n gofyn pa beth yn union a olygir wrth “doorway” yn y  
> cyd-destun – gall fod yn rhyw fath o lobi.
>
> Ann
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf  
> OfCarolyn
> Sent: 06 December 2010 14:49
> To: [log in to unmask]
> Subject: ATB: doorway
>
> Fyddai 'yng nhyffiniau'r drws hwn' yn rhy eang?
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology  
> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran  
> Post
> Anfonwyd/Sent: 06 Rhagfyr 2010 14:46
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: doorway
>
> Yn benodol, arwyddion ynghylch ysmygu ‘No smoking in this  
> doorway’.
>
> Ydi ‘Dim ysmygu yn y drws hwn’ yn mynd i edrych yn hurt?
>
> Beth arall allaf ei roi?  Prin y gallaf roi ‘Dim ysmygu wrth y  
> drws hwn’ – mae’n siŵr bod hawl ysmygu ar y pafin / llwybr y  
> tu allan i’r drws.
>
> Diolch.
> Claire
>
> Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a  
> Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa  
> gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
>
> Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales  
> under the number 4276774, and the address of the registered office  
> is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.
>
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 10.0.1170 / Virus Database: 426/3300 - Release Date: 12/06/10
>