Print

Print


At be ddeudais i yn y neges ddwytha, nid ystyr penodol yr ymadroddion yma
sy'n bwysig, naci, ond eu bod nhw'n betha ddywedwyd wrthan ni pan oeddan
ni'n fach sydd wedi effeithio arnon ni am oes (a ninna'n gorfod treulio oes
yn trio ymddatrys ohonyn nhw!). Cytuno efo Carolyn - taw, bydd ddistaw, cau
dy geg, taw da chdi, cau dy hopran, watsia di be ti'n ddeud - unrhyw beth
mae tadau a mamau yn ei ddeud sy'n effeithio arnon ni tra byddwn byw.

Anna

2010/11/18 Carolyn <[log in to unmask]>

>  Bosib y basa pethau syml fel 'Taw' a 'Bydd ddistaw' yn cyfleu'r ystyr os
> nad oes ymadroddion penodol ar gael.
>
> Carolyn
>
>
>  ------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *anna
> gruffydd
> *Anfonwyd/Sent:* 18 Tachwedd 2010 16:37
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: Mind your P's and Q's ac ati
>
>
>
> Fel deudais i, yn Saesneg y byddai fy nhad yn deud y petha hynny ac maen
> nhw'n perthyn fwy i ddiwylliant Lloegr na Chymru - be fasa ein neinia neu
> ein teidia ni wedi'i ddeud tybed? Ella bod gofyn bod yn fwy penagored a
> meddwl am ymadroddion oedd ganddyn nhw sydd heb fod ella'n cyfleu'r un ystyr
> yn union ond yr un ysbryd. Dal i feddwl - ella daw rhyw ysbrydoliaeth yn nes
> ymlaen!
>
> Anna
>
> 2010/11/18 Gareth Jones <[log in to unmask]>
>
> Dyma'r cyd-destun:
>
>
>
> The roots of our emotional mistrust of others lie in our childhood and
> infancy when we were taught to be careful what we said to others."Mind your
> P's and Q's"; "Don't speak until you're spoken to"; "Children should be seen
> and not heard". As a result many people hold back from communicating their
> thoughts and feelings to others.
>
>  ----- Original Message -----
>
> *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]>
>
> *To:* [log in to unmask]
>
> *Sent:* Friday, November 19, 2010 12:20 AM
>
> *Subject:* Re: Mind your P's and Q's ac ati
>
>
>
> Mae'n anodd, tydi - maen nhw'n betha sy'n perthyn i ddiwylliant arall -
> sori, dim help am y tro ond jyst i ddeud y meddylia am y peth!
>
> Anna
>
> 2010/11/18 Gareth Jones <[log in to unmask]>
>
> "Mind your P's and Q's"; "Don't speak until you're spoken to"; "Children
> should be seen and not heard".
>
>
>
> Tybed oes gan unrhyw un awgrymiadau ynglyn ag ymadroddion neu ddywediadau
> bachog i gyfleu'r uchod?
>
>
>
>
>