Print

Print


O ran diddordeb, oes rhywun wedi sylwi ar 'Mount Snowdon'yn ymddangos yn y cyfryngau Saesneg (radio,teledu a'r papurau) dros y misoedd diwethaf, lle byddai 'Snowdon' gynt am yr Wyddfa? Mae e'n hala fi'n benwan a dw i ddim yn gwybod pam! Ai dylanwad Saesneg America yw hyn? O'n i'n meddwl mai 'Snowdon' oedd yr enw Saesneg cywir!

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 24 September 2009 17:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Wiltshire

O ran diddordeb, newydd gael neges gan ffrind yn son am ei gwyliau: 
"Alhambra (am trying not to say THE Alhambra as 'al' means 'the')"
Mae'r un peth yn wir am "Mount Fujiyama" (yama = mynydd) ac am llawer o
enwau lleoedd eraill, mae'n siwr.

Ann

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhidian Evans
Sent: 23 September 2009 14:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Wiltshire

Diolch am eich help. Wedi defnyddio Wiltshire ar y ddogfen.
Diolch,
Rhidian

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Huw Tegid
Sent: 23 September 2009 13:08
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Wiltshire

Dwi'n cytuno, Geraint.  "Wiltshire" ar ben ei hun fyddai orau dwi'n meddwl,
neu os oes rhaid dilyn y patrwm 'Swydd', "Swydd Wilton", gan mai ar ôl y
dref honno yr enwyd y sir, cyn i Gaersallog, Trowbridge a Swindon ddod yn
drefi amlycach/pwysicach.

Cofion gorau,

Huw


-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 23 September 2009 12:59
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Wiltshire

Ydi "Swydd Wiltshire" ddim yn enghraifft o ailadrodd? Fel y dafarn yng Nglyn
Ceiriog sy'n galw ei hun "The Glyn Valley".

Un ai "Wiltshire" neu "Swydd Wilt" fyddai'n gywir am wn i. Ac mae "Swydd
Wilt" yn rhy ddoniol, felly "Wiltshire".

Geraint

----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 23, 2009 12:41 PM
Subject: Re: Wiltshire


O'r cofnod "Bûm hefyd ar ymweliad diddorol â Shrivenham yn Wiltshire
..." er efallai y byddai 'Swydd Wiltshire' yn well ac mae digon o
enghreifftiau ohono ar y rhyngrwyd.

Muiris

2009/9/23 Rhidian Evans <[log in to unmask]>:
> Wedi edrych yn GyrA ond wedi methu dod o hyd i air Cymraeg am Wiltshire.
> Tybed a oes un?
>
> Diolch am unrhyw gymorth,
>
> Rhidian
>
>
>
> Rhidian Evans,
>
> Dirprwy Brif Swyddog,
>
> Menter Iaith Sir Benfro,
>
> Canolfan Ddysgu Gymunedol,
>
> Ysgol Bro Gwaun,
>
> Heol Dyfed,
>
> Abergwaun,
>
> Sir Benfro
>
> SA65 9DT
>
> Ffôn:(01348) 873700 - Llinell Uniongyrchol (01348) 874018
>
>
>
> [log in to unmask]
>
> [log in to unmask]
>
>
>
>
>
>


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************