Print

Print


Nachdi Berwyn, ti'n iawn!  Ond digon difyr ar bnawn dydd gwener hefyd!  Diolch!
 
Dwi'n eitha hoffi Maes yr Aes hefyd. Ond mi ddalia'i i aros am ateb Cyngor Caerdydd...
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, October 03, 2008 12:31 PM
Subject: Re: ATB: Hayes Place, Caerdydd

Geiriau Bedwyr yn Yn ei Elfen':
 
"Benthyg o'r Saesneg  place - hen, hen fenthyg - ydi'r gair - plas, ein gair ni am  dy^ go fawr a chrand. Ond, meddech chi, 'lle, man' ydi ystyr plas hefyd pan fenthycwyd ef i'r Gymraeg gyntaf.
 
"Rywdro tua 1400 dechreuwyd defnyddio plas i gyfeirio at dai bonedd.
 
"Yn ddiweddarach eto ... daeth yn llai pendefigaidd ei flas - yn air ar dy^ fferm gweddol braf yn hytrach na phlasty. Mi wyddoch chi i gyd am ffermydd o'r enw Plas na fuon nhw erioed yn dai bonedd."
 
Os cofia i'n iawn, penderfynwyd defnyddio 'Plas' yn 'Plas y Parc' am fod stryd â fersiwn Cymraeg o 'Park Place' eisoes yn bod yng Nghaerdydd.
 
Nid bod hyn i gyd o ryw help mawr i ti, Geraint ...
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Rhian Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, October 03, 2008 11:17 AM
Subject: Re: ATB: Hayes Place, Caerdydd

Dw i'n meddwl bod Bedwyr yn sôn am yr enw 'plas' yn ei lyfr o am enwau lleoedd, ond fedra i ddim dod o hyd i'r llyfr pan dw i isio fo!
Rhian 



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.173 / Virus Database: 270.7.5/1704 - Release Date: 02/10/2008 21:35