----- Original Message -----
Sent: Friday, July 25, 2008 4:38 PM
Subject: fwyaf cynhwysfawr bosibl?
Annwyl gyfeillion
Fel erioed ar bnawn dydd Gwener, mae'r
ymennydd ar stand-by. Nid cwestiwn termau, mae'n ddrwg gen i, ond cwestiwn
treiglo:
"y ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr bosibl"
sy'n gywir,
ie, nid
"y ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr posibl"?
Ymddiheuriadau
os yw'n gwestiwn gwirion, dw i ddim yn gallu meddwl! A does gen i ddim ewyllys
i ddechrau pori yn y llyfr melyn clyfar hwnnw a elwir (yn hollol gamarweiniol)
yn PWT...
Diolch yn
fawr,
Osian