Pan wnes i lefel "O" yn y Gymraeg, 'roedd 'na ddewis, cyhyd ag y gallaf gofio'r enwau, o wneud "Cymraeg", "Cymraeg fel Ail Iaith", neu "Cymraeg fel Iaith Fodern". Efallai "Saesneg fel Iaith Fodern" yw hyn. Ann ----- Original Message ----- From: Geraint Lovgreen To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, July 09, 2008 9:04 PM Subject: Re: ESOL Cymry Saesneg, iawn mewn cyferbyniad â Cymry Cymraeg. Ond Cymry sy'n siarad Saesneg? Dwi'n un o'r rheiny hefyd. ----- Original Message ----- From: Carolyn To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, July 09, 2008 8:58 PM Subject: ATB: ESOL Mae'n well gan rai pobl eu galw'n Gymry sy'n siarad Saesneg. ---------------------------------------------------------------------------- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen Anfonwyd/Sent: 09 Gorffennaf 2008 19:51 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: ESOL Ydi yn hollol. Wyddwn i ddim fod yna bobol sy'n anfodlon â'r term 'di-Gymraeg' chwaith. O'n i'n meddwl fod 'Cymry di-Gymraeg' yn ffordd wleidyddol gywir o sôn am bobl y byddem yn arfer eu galw (heb unrhyw fwriad sarhaus!) yn 'Saeson' erstalwm! ----- Original Message ----- From: Carolyn To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, July 09, 2008 8:47 PM Subject: ATB: ESOL Wedi meddwl eto, mae'r term Saesneg yn wirion hefyd tydi? Mae 'na lot o bobl yn siarad lot o ieithoedd eraill a Saesneg hefyd. -------------------------------------------------------------------------- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen Anfonwyd/Sent: 09 Gorffennaf 2008 19:41 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: ESOL Mae'r term ESOL (sef English for speakers of other languages) wedi'i gyfieithu yn Term Cymru (ond dim ond ar statws 5) fel 'Saesneg ar gyfer Siaradwyr ieithoedd eraill'. Ga'i awgrymu bod hwn yn derm hurt, achos, er enghraifft, mae pawb sy'n darllen hwn yn siaradwyr iaith arall, sef Cymraeg. Ond go brin y byddai arnom angen darpariaeth ESOL. Felly rhois gynnig ar ddweud 'Saesneg fel ail iaith', ond mae'r un peth yn wir i raddau llai am yr ymadrodd hwnnw. Dwi wedi Gwglo ac wedi gweld enghraifft o 'Saesneg i dramorwyr' - ond efallai nad yw bathwyr y term gwreiddiol eisiau eu galw'n 'foreigners' - a hwythau'n aml yn ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches, byddai hynny efallai'n ymfflamychol. Felly - be dwi wedi'i roi heno wrth gyfieithu hyn (yn y Cofnod) ydi 'Saesneg i'r di-Saesneg' - oes gan bobl farn am hyn o gwbl? Neu awgrymiadau eraill? Geraint No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.4.7/1541 - Release Date: 08/07/2008 19:50