Print

Print


Nid cwestiwn ynghylch y Gymraeg o gwbl mo hwn, er fy mod i'n golygu testun mae rhywun arall wedi'i gyfieithu o'i Gymraeg ei hun.

Dywed yr awdur "The Sunday school, however, is not an extension of day-school(?), " a'r awdur sydd wedi cynnwys y marc cwestiwn.

Dw i'n gweld y broblem, 'dw i'n meddwl.  Fel arfer, defnyddir "day school" i olygu ysgol mae plentyn yn mynd iddi bod dydd, o gartref, yn hytrach na mynd i "boarding school".  A all rhywun arall feddwl am y fordd arferol, naturiol, os oes 'na un, o gyfeirio at "weekday school/ordinary school"?

Diolch,

Ann