Print

Print


> 
> Mae'r Saesneg yn swnio dipyn fel "Peidiwch ag esgus bod yn sâl yn ystod 
> y lleoliad"!

Dyna oedd fy ymateb cyntaf i! Mae llawer o'n gofidiau fel cyfieithwyr yn 
tarddu o'r ffaith ein bod ni'n gorfod cyfieithu rhywbeth sy'n aneglur 
neu'n glogyrnaidd yn y fersiwn gwreiddiol.

O ran y gair 'Lleoliad' dyna'r gair a ddefnyddir gan yr ysgol nyrsio am 
gyfnod o brofiad gwaith mewn ysbyty ac am wn i mae wedi magu ystyr 
'amseryddol' yn y cyswllt yna. Ond cytunaf y gallai swnio'n chwithig os 
ydych chi'n meddwl am 'leoliad' fel rhywbeth daearyddol yn unig. Mae 
geiriau fel gwyliau a thymor yn ymwneud ag amser beth bynnag.

Diolch i bawb am eu cynigion. Dw i am ddefnyddio cynnig Geraint


Ni ddylid adennill oriau salwch/absenoldeb yn ystod y lleoliad

am ei fod yn gryno ac yn eglur. Anghofiais i ddweud bod y Gymraeg a'r 
Saesneg ochr yn ochr â'i gilydd ar y daflen felly rhaid i'r Gymraeg fod 
yn eitha byr.

Mae'n dda bod brêns rhai yn dal i weithio ddydd Gwener. Mae fy meddwl i 
wedi diffygio'n llwyr!

Diolch i bawb.

Sylvia.


-- 
Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>

Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor

-- 
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office.  www.bangor.ac.uk