Print

Print


Mae'n anodd - mae'n well gen i bod Swyddog Technegol y Steddfod neu pwy bynnag yn sgrifennu darn i roi gwybodaeth ar y we yn Gymraeg heb iddo gael ei gywiro gan ryw gywirydd proffesiynol neu, yn waeth byth, ei gyfieithu - ond mae yn anodd gwybod lle i dynnu'r llinell - pa mor wallus y mae'n rhaid i rywbeth fod cyn iddo gael ei gyfrif yn annerbyniol.

Mae'n fy mhoeni i fwy o lawer bod gohebydd radio profiadol yn dechrau adroddiad wedi'i baratoi ymlaen llaw gyda'r geiriau "Pedwar ar hugain oed ..."


On 4 Jul 2008, at 08:55, David Bullock wrote:

Canabis am mai dim ond yn y goben y bydd nn neu rr yn digwydd yn Gymraeg, ife?
 
Ac efallai bod ein bywydau ni fel unigolion yn rhy fyr, ond mae’n rhaid gobeithio y caiff y Gymraeg fywyd hirach na’r unigolion sy’n ei siarad ar unrhyw un adeg.  Dyna pam mae pobl yn poeni am y pethau yma, rwy’n credu.
 
Er mwyn i’r iaith barhau, mae angen siaradwyr ac ysgrifenwyr o bob math. Iawn, yn y sefyllfa ddwyieithog a dirywiol sydd ohoni, allwch chi ddim disgwyl i bawb dreiglo’n reddfol a difeddwl yn yr un ffordd â’r hen bobl ers lawer dydd. Ond mae’n rhaid i rai o leiaf o’r siaradwyr a’r ysgrifenwyr sydd gyda ni geisio sicrhau bod yna ffurfiau a chystrawennau cyson.
 
Mae statws iaith yn dibynnu i ryw raddau ar ei chyflwr hi. Dyw hi ddim yn amhriodol disgwyl i bobl sy’n gwneud eu bywoliaeth ar gefn y Gymraeg ofalu am ei chyflwr a’i statws hi yn gyhoeddus, ydy hi?
 
 
 
 
 

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Osian Rhys
Anfonwyd/Sent: 03 Gorffennaf 2008 23:01
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Treiglo a chenedl geiriau - a dyblu'r "n"
 
dyna'r rheol?! felly dyna pam "canabis" yn gymraeg?! cytuno efo ti geraint bod bywyd rhy fyr i boeni gormod am y pethe yma, falle bydde tamed o'r moog droog yn gwneud lles i ni i gyd...


 
Wrth gwrs mae'r holl beth yn hollol fympwyol - pwy ddyfeisiodd y syniad o beidio dyblu n mewn geiriau benthyg o'r Saesneg beth bynnag?
 
Dwi'n sgwennu twnel, tenis ac ati ond rhaid cyfaddef y byddai twnnel, tennis yn fwy rhesymegol.
 
Wedyn mae gennym Eifionydd a Meirionnydd, a Deganwy/Degannwy (Deganwy sy'n edrych yn "iawn" i mi).
 
Does dim isio poeni gormod am y pethau ma, mae bywyd yn rhy fyr!
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">john.puw
To: [log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">[log in to unmask]
Sent: Thursday, July 03, 2008 9:55 PM
Subject: Re: Treiglo a chenedl geiriau - a dyblu'r "n"
 
Ninne hefyd 

O Dijon

John

Sent using BlackBerry� from Orange


From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Date: Thu, 3 Jul 2008 18:51:49 +0100
To: <[log in to unmask]>
Subject: Re: Treiglo a chenedl geiriau - a dyblu'r "n"
Dwi bob amser yn anwybyddu Cysill os ydi GyA yn cytuno efo fi!  ;-)
 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">Ann Corkett
To: [log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">[log in to unmask]
Sent: Thursday, July 03, 2008 4:45 PM
Subject: Re: Treiglo a chenedl geiriau - a dyblu'r "n"
 
Byddai awgrym Geraint, neu golon ar ol "sefyllfa" yn datrys y broblem.
 
Carafan[n]au
Pwynt llawer llai pwysig nag "Urdd Gwyrdd" yw hwn, a gosod y ffeithiau a gofyn cwestiwn ydw i, yn hytrach na dadlau achos:
 
Beth amser yn ol, anfonsom at Ganolfan Bedwyr i ofyn pam oedd lluosog "carafa/n" a^ dwy "n" yn Cysill.  Dyma'r ateb a gefais gan Menna Morgan, a oedd yn gweithio yno ar y pryd:
040701: carafannau: mae Delyth yn mynnu ein bod ni'n dilyn "Orgraff yr Iaith" a 'carafannau' sydd yn hwnnw. Gofynnodd Helen Smith, sy'n cyfieithu yn y Brifysgol, paham ein bod ni'n cynnig 'carafannau' yn lle 'carafanau'.
Efallai y gwnawn ni newid hwn ...!"
 
Alla i ddim dod ar draws yr union dudalen rwan yn "Orgraff yr Iaith", efallai ei fod mewn argraffiad diweddaraf na'm un innau, ond cofiaf ein syndod.  Byth ers hynny, 'dw i wedi ysgrifennu "carafannau" efo dwy "n", ond gwelaf fod hyn yn "well-kept secret" (fel mae'r rhaglenni teithio'n ei ddweud) ac nad yw hyd yn oed TermCymru yn gwybod amdano!
 
Nodais hefyd y neges hon ar W-T-C:
Eirlys Williams, W-T-C,050517: Mae gen i frith gof i "Enid P." ddweud na ddylid dyblu'r 'n' mewn enwau lluosog oedd yn amlwg wedi tarddu o iaith arall e.e. carafanau a.y.y.b.
 
Efallai dylai fod rhyw benderfyniad cenedlaethol ar ran Cysill a TermCymru (o ddewis, cyn ailgyhoeddi GyrA!).  Os mai un "n" yn unig sydd mewn enwau deddfwriaeth, mae'n mynd i fod yn anodd newid - a beth am berchnogion afleoedd carafan[n]au sydd wedi gwneud ymdrech i barchu'r iaith?
 
Os
Os dymunwn fod yn fanwl gywir, 'roeddwn i'n meddwl bod angen berf ar ol "os", nid dim ond "os yn anghenrheidiol".
 
Ann


----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">Geraint Lovgreen
To: [log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">[log in to unmask]
Sent: Thursday, July 03, 2008 3:52 PM
Subject: Re: Treiglo a chenedl geiriau
 
Wel dyna ni. Mae'r Urdd wedi agor y llifddorau go iawn rwan yndo.
 
Ond o ddifri, dwi ddim yn meddwl bod Gwyrdd, Melyn a Choch yn cael eu defnyddio yn y fan hyn fel ansoddeiriau i ddisgrifo 'sefyllfa'. Mae'n debyg mai defnyddio'r gair "sefyllfa" ydi'r camgymeriad. Mi fasa dweud "GWYRDD: Y tywydd..." ac ati yn gwneud y tro yn iawn.
 
Geraint
 
(carafanau sy'n gywir, gyda llaw, yn �l GyA)
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">Claire Richards
To: [log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">[log in to unmask]
Sent: Thursday, July 03, 2008 3:42 PM
Subject: Treiglo a chenedl geiriau
 

Dwi�n meddwl y bydd yn rhaid i ni anghofio am dreiglo a/neu genedl geiriau (a sawl peth arall).

 

Welsoch chi hyn ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, ar y dudalen sy�n s�n am y Maes Carafanau (sic) a Gwersylla?

 

�Gweithredir sustem ar gyfer cerbydau sydd am aros ar y maes, fel � ganlyn: 

SEFYLLFA GWYRDD: Y tywydd yn iawn - dim peryg o niweidio'r tir. 
Caniateir i chi symud y car, os yn angenrheidiol. 
SEFYLLFA MELYN: Y tywydd yn troi, - peryg o niweidio'r tir. 
Gofynnir i chi beidio symud y car, oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol. 
SEFYLLFA COCH: Y tywydd yn wael - cerbydau yn achosi difrod i'r caeau.�

 

http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=114

 

Claire



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG. 
Version: 8.0.134 / Virus Database: 270.4.4/1532 - Release Date: 03/07/2008 08:32