Print

Print


Diolch John - isio cadarnhad on i na doeddwn i ddim yn cymyd cam gwag ne'n deud rwbath ych a pych
 
Annes

2008/7/13 john.puw <[log in to unmask]>:
Cynnig ardderchog. Mae'n anodd iawn gwella arno yn fy marn i.

Hwyl

John

Sent using BlackBerry® from Orange


From: annes gruffydd <[log in to unmask]>
Date: Sun, 13 Jul 2008 20:45:00 +0200
To: <[log in to unmask]>
Subject: Me read? No Way!

Dyma deitl y ddogfen am ddarllenwyr sal neu sy'n ded na dydyn nhw ddim yn ddarllenwyr (diolch, gyda llaw, am yr ymatebion i 'non-reeaders'- wedi penderfynu deud 'na fyddan nhw ddim yn darllen'. Mae'r ddogfen yn son am strategaethau i wella medrau darllen bechgyn ond hyd y gwela i byrdwn y peth ydi bod rhai bechgyn yn cefnu ar ddarllen. Felly dyna ddylia fod yn y teitl yn hytrach na fedran nhw ddim. Mae'r Saesneg yn gallu bod yn mwys wrth gwrs a fedran ni ddim. Be dach chi'ei feddwl o'r cynnig yma?
 
Darllen - fi? Dim ffiars!
 
 Dwi wedi rhoi darllen a a fi yn y drefn honno, achos fel arall byddai angen dau ofynnod ac mi fyddai hynna'n mynd yn fler.
 
Diolch ymlaen llaw am unrhyw syniada mwy bachog
 
Annes